Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cytundebau rygbi proffesiynol i ferched Cymru am y tro cyntaf
Bydd chwaraewyr benywaidd yn cael cytundebau proffesiynol gan Undeb Rygbi Cymru am y tro cyntaf erioed.
Erbyn diwedd y flwyddyn bydd 25 o ferched sy'n chwarae'n rhyngwladol yn cael cytundeb 12 mis - bydd 10 o'r cytundebau yn rhai proffesiynol a 15 yn gytundebau cynnal a fydd yn talu llai.
Yn ogystal bydd chwaraewyr yn cael ffioedd hyfforddi a th芒l am chwarae mewn gemau. Bydd disgwyl i chwaraewyr gwrdd 芒 safonau penodol.
Yn sgil canlyniadau siomedig yn gynharach eleni fe gafodd y garfan rywfaint o feirniadaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae'r cyhoeddiad yn golygu bod Cymru'n dilyn undebau gwledydd eraill fel Lloegr - a roddodd gytundebau proffesiynol i ferched am y tro cyntaf yn 2016.
Bellach, mae menywod Lloegr ar frig tabl detholion y byd.
Daw hefyd yn dilyn galwadau ers tro ar i Undeb Rygbi Cymru wneud mwy i gefnogi chwaraewyr benywaidd.
Daeth hynny i'r amlwg ar 么l y Gemau Olympaidd pan ddywedodd gan bod ei chefnogaeth ariannol wedi dod i ben.
"Dyma'r cynllun gorau i'n paratoi at Gwpan Rygbi'r Byd flwyddyn nesaf," meddai capten Cymru, Siwan Lillicrap.
"Bydd e'n golygu bod rhai o'n chwaraewyr yn gallu bod yn athletwyr proffesiynol a bydd modd i rai gymryd cyfrifoldebau penodol o ran dadansoddi perfformiad.
"Bydd modd cael mwy o drefn ar hyfforddi a gwella o anafiadau - bydd hynny yn help i wella ein perfformiad fel gr诺p."
Dadansoddiad gohebydd chwaraeon 91热爆 Cymru, Catrin Heledd:
"Dyma gam holl bwysig ymlaen i'r gamp yng Nghymru. Mae merched Cymru wedi bod yn galw am ddatblygiad o'r fath ers blynydde - rhywbeth fydd yn sicrhau eu bod nhw'n gallu dechrau cystadlu yn erbyn timau gorau hemisffer y gogledd fel Lloegr a Ffrainc.
"Fe fydd hi'n ddiddorol gweld pwy fydd yn gallu derbyn y cytundebau, ac yn amlwg fe fydd rhai o fewn y garfan yn colli mas, ond wrth edrych ymlaen i Gwpan y Byd y flwyddyn nesa' y gobaith yw y bydd hyn yn sicrhau bod Cymru yn fwy cystadleuol.
"I rywun fel asgellwraig Cymru, Jaz Joyce (sy'n un o chwaraewyr gorau'r byd) fe ddylai hyn olygu ei bod hi'n gallu parhau i ddatblygu a gwella heb orfod poeni am gydbwyso gwaith a rygbi.
"Dyma obeithio bod heddiw wir yn garreg filltir holl bwysig i d卯m rygbi merched Cymru."
'Symud ymlaen'
Dywedodd Cyfarwyddwr Perfformiad Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker: "Ry'n ni wedi'n hymrwymo i sicrhau bod ein rhaglen ar gyfer merched yr orau yn y byd ac mae cyhoeddiad heddiw yn gam i'r cyfeiriad hwnnw.
"Mae'r chwaraewyr wedi bod 芒 rhan allweddol yn y broses ac ry'n ni'n teimlo mai dyma'r ffordd orau i symud ymlaen yn rhyngwladol yn y tymor byr a hir.
"Yn y cyfamser mae'r hyfforddwyr a'r chwaraewyr yn paratoi at dair g锚m rhyngwladol yr hydref ac yna bydd cytundebau yn cael eu rhoi i chwaraewyr sy'n debygol o fod y rhai mwyaf cystadleuol yng Nghwpan Rygbi'r Byd."
Dywedodd y prif hyfforddwr, Ioan Cunningham: "Ry'n ni wir yn credu y bydd hyn yn 'neud gwahaniaeth o ran pa mor gystadleuol y gallwn ni fod yng ngemau Cwpan Rygbi'r Byd.
"Bydd modd hyfforddi bedair gwaith yr wythnos - ar hyn o bryd ry'n ni'n ymarfer ar benwythnosau ac unwaith yr wythnos.
"Bydd modd datblygu cynlluniau perfformiad i unigolion er mwyn iddynt gyrraedd a rheoli eu potensial."
Bydd Undeb Rygbi Cymru hefyd yn penodi staff newydd a fydd yn canolbwyntio ar berfformiad, ffordd o fyw a seicoleg a bydd arian yn cael ei neilltuo i dalu am raglenni penodol er mwyn codi'r safon.
Dywedodd Prif Weithredwr URC, Steve Phillips, ei fod yn cydnabod nad rhoi cytundeb yw'r ateb hudol i lwyddiant rygbi merched Cymru ond "eu bod yn rhan allweddol o strategaeth uchelgeisiol yr undeb i godi'r safon".