Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Safleoedd gwefru ceir trydan bob 20 milltir erbyn 2025
- Awdur, Sion Pennar
- Swydd, Gohebydd 91热爆 Cymru
Bydd safleoedd gwefru ceir trydan bob 20 milltir ar briffyrdd Cymru erbyn 2025, os yw cynlluniau newydd yn cael eu gwireddu.
Mae'r nod yn rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer pwyntiau gwefru - mae'r manylion yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth.
Yn 么l Lee Waters AS, y bwriad yw rhoi "hyder i yrwyr newid wrth i'r galw am gerbydau trydan gynyddu".
Tra bod y llywodraeth yn dweud eu bod yn fesurau "uchelgeisiol", mae angen bod yn "radical" yn 么l un defnyddiwr car trydan.
Mae dros 1,000 o lefydd cyhoeddus i roi trydan i gar yng Nghymru ar y funud, sydd gyfystyr ag un i bob chwe cherbyd.
Edrych ar y dyfodol mae'r strategaeth, yn 么l Mr Waters, y dirprwy weinidog dros newid hinsawdd.
"Ar hyn o bryd mae digon o fannau trydanu ar gyfer y nifer o geir sydd gyda ni ond fel mae'r nifer yn codi bydd rhaid i ni gael mwy o fannau a dyna holl bwrpas y strategaeth rydyn ni'n lansio heddiw," meddai.
I gyrraedd y nod o gael pwyntiau gwefru ar bob 20 milltir o rwydwaith cefnffyrdd Cymru erbyn 2025, mae'r llywodraeth yn edrych i weithio gyda'r sector breifat.
Ond mae 'na hefyd fesurau i gydweithio ag awdurdodau lleol, gan ddefnyddio'r Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel - sydd eisoes yn bodoli - i ariannu 300 o bwyntiau ledled y wlad erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.
Un o'r prosiectau sydd wedi ei ariannu gan y gronfa ac sydd ar fin agor yw pum pwynt gwefru cyflym ar yr A48 yn Cross Hands, Sir Gaerfyrddin.
"Mae 'na her, ac ry'n ni wedi bod yn araf o'r dechre, ond mae hwn yn enghraifft o be' ni'n gallu'i wneud," meddai Dr Neil Lewis, rheolwr Ynni Sir G芒r.
"Mae'n rhoi hyder i bobl eu bod nhw'n gallu gyrru o ogledd Cymru i'r de - achos ar y foment, mae'n anodd ofnadwy."
'Angen mesurau radical ar gyfer newid'
Ers blwyddyn mae David Thomas o ardal Wrecsam wedi bod yn defnyddio car trydan.
Mae'n gallu teithio tua 260 milltir yn y cerbyd ar fatri llawn - ac mae ganddo bwynt gwefru adref ac yn y gwaith - felly prin mae'n defnyddio pwyntiau cyhoeddus.
Ond mae'n credu bod angen mesurau "radical" i sbarduno newid cymdeithasol mawr.
"Mae definitely angen bod yn radical, yn enwedig o ran buddsoddiad - mae o angen bod yn enfawr," meddai.
"Dwi ddim yn gweld llawer o bwynt rhoi un neu ddau bwynt trydanu mewn maes parcio'r cyngor, achos dydy hynny ddim yn mynd i gael niferoedd mawr [i droi at geir trydan]."
Mae Mr Waters yn dweud bod y strategaeth yn "uchelgeisiol" ond mae'n cydnabod bod rhwystrau hefyd, gan gynnwys yr "her enfawr" o foderneiddio'r grid trydan cenedlaethol.
"Rydyn ni'n rhagweld bydd y galw am drydan, wrth i ni ddatgarboneiddio a throi at geir a phethau trydan eraill, yn cynyddu 50%, ac mae angen grid sy'n addas," meddai.
"Mae'n ddigon da i nifer y ceir trydan sydd gennym ni nawr, ond mae angen sicrhau ei fod yn dal i fyny."
Profi cyn prynu
Yn 么l Huw Davies o Bartneriaeth Ogwen, mae'n rhaid i gymdeithas addasu i'r heriau amgylcheddol sy'n ein hwynebu ni.
"Yn sicr mae cyhoeddiad y dirprwy weinidog i'w groesawu, mae'r isadeiledd wedi bod yn wan yn enwedig yng nghefn gwlad," meddai.
"Be' sydd yn rhaid i ni ei wneud ydy rhoi hyn yng nghyd-destun newid hinsawdd, gyda chynhadledd COP 26 ar y gweill, mae'n rhaid i ni fel cymdeithas a chymuned symud at deithio llai yn un peth, a defnyddio cerbydau sydd ddim yn llygru ein hamgylchedd ni heddiw."
Mae gan Bartneriaeth Ogwen gynllun o'r enw 'Dyffryn Gwyrdd' ar waith ar hyn o bryd, sydd 芒'r nod o daclo tlodi hinsawdd a gwella trafnidiaeth gymunedol.
"Mae gennym ni ddau gerbyd trydan ar hyn o bryd, 'da ni wedi cael cefnogaeth gan y loteri a'r gymdeithas trafnidiaeth gymunedol, ac wedyn mae trydydd car ar ei ffordd trwy gronfa hwb i'r hinsawdd y loteri.
"Bydd hwnnw'n gar y bydd modd i bobl ei hurio a'i fenthyg - yn lle bo' nhw'n prynu car trydan, bydd modd ei ddefnyddio am awr neu am ddiwrnod er mwyn deall sut maen nhw'n gweithio a gweld y realiti o ran gwefru."