Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
‘Miloedd’ o ddiffibrilwyr heb eu cofrestru yn peryglu bywydau
- Awdur, Nia Cerys
- Swydd, Newyddion 91Èȱ¬ Cymru
"Ro'n i a'r gŵr wedi mynd i Landudno am y diwrnod ac wedi mynd am baned i gaffi... Y peth nesa' roedd 'y 'nghalon i wedi stopio."
Oni bai bod diffibriliwr ar gael pan gafodd Hayley Williams ataliad ar y galon, mae'n dweud na fyddai hi'n fyw heddiw.
"Mae o mor lwcus bod o yna i fi 'de neu faswn i ddim yma. Does 'na ddim cwestiwn o gwbl, faswn i ddim yma heddiw os nad oedd 'na deffib yna."
Mae'n rhannu ei stori ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod miloedd o ddiffibrilwyr ar draws Cymru sydd heb eu cofrestru, a thimau achub ddim yn gwybod amdanynt, meddai'r Gwasanaeth Ambiwlans.
Mae hefyd perygl nad yw rhai o'r peiriannau yn cael eu cynnal a'u cadw ac felly ddim yn barod i'w defnyddio mewn argyfwng.
Mae elusennau a sefydliadau iechyd nawr yn annog perchnogion diffibrilwyr i'w cofrestru ar fas data cenedlaethol newydd o'r enw , gan helpu i achub miloedd o fywydau cleifion sy'n cael ataliad y galon yn y dyfodol.
Cafodd Ms Williams, o Landdoged yn Sir Conwy, ataliad y galon yn Llandudno ac mae'n dweud bod cael mynediad cyflym at ddiffibriliwr wedi achub ei bywyd.
"O'dd y gŵr yn meddwl bod o wedi gwneud rhywbeth i wylltio fi achos nes i ddim siarad 'efo fo am rai munudau. Y peth nesa' roedd 'y 'nghalon i wedi stopio.
"Lwcus bod 'na deffib ar wal yn y lifeboat station yn Llandudno. Wnaeth y gŵr drio 'efo hwnna efo'r ambiwlans am hanner awr i drio cael fi'n ôl - nes i obviously dod yn ôl. Dwi mor lwcus bod o yno."
Y tu hwnt i ysbytai, mae tua 2,800 achos o ataliad y galon yn digwydd yn y gymuned yng Nghymru bob blwyddyn - ond dim ond un ymhob 20 sy'n goroesi.
Mae pob munud heb Adfywio Cardio-pwlmonaidd (CPR) a diffibriliwr yn gallu lleihau'r siawns o oroesi hyd at 10% mewn rhai achosion.
Ond mae CPR a diffibriliwr yn syth yn gallu mwy na dyblu'r siawns o fyw.
Ar hyn o bryd mae 'na tua 5,700 o ddiffibrilwyr cyhoeddus wedi'u cofrestru ar system Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Ond mae pryder bod miloedd yn rhagor ar draws Cymru nad yw'r gwasanaethau brys yn gwybod amdanyn nhw.
Ychwanegodd Ms Williams: "Mae'n ofnadwy o bwysig bod 'na gofrestr. Os oes 'na rywbeth yn digwydd i berson, y peth cynta' 'da chi'n gwneud ydy ffonio 999.
"Os oes 'na gofrestr, fedra nhw dd'eud wrth bobl bod 'na deffib drws nesa' neu ar y stryd nesa'."
Yn ôl Tomos Hughes o Wasanaeth Ambiwlans Cymru, mae'r gofrestr yn bwysig o ran cynnal a chadw'r peiriannau hefyd.
"Mae'n rhaid gwneud yn siŵr fod y padiau o fewn dyddiad, bod 'na charge yn y batri a bod hwnnw o fewn dyddiad.
"Os nad oes digon o charge yn y batri i roi sioc i'r claf mae 'na siawns uchel iawn nad ydy'r diffibrilydd yn mynd i weithio.
"Da ni'n dal i ffeindio nifer fawr o beiriannau bob wythnos ar draws Cymru.
"Mae pobl yn meddwl bod y peiriannau yn cofrestru ar ben eu hunain. Ond dydyn nhw ddim, dydy o ddim yn fater o brynu diffibrilydd a'i osod ar y wal.
"Mae'n rhaid ei gofrestru fo efo'r Gwasanaeth Ambiwlans drwy'r Circuit."
Ychwanegodd: "Mae'n syml iawn i'w cofrestru nhw. Mynd ar wefan y BHF [British Heart Foundation], mae'n cymryd rhyw bum munud.
"'Da chi angen manylion y diffibrilydd, manylion y batri, dyddiad y padiau a lleoliad y deffib.
"Mi fydd wedi'i gofrestru'n barod wedyn i achub bywyd."
'Mi allech chi achub bywyd'
Mae bas data The Circuit yn ymgyrch ar y cyd rhwng BHF Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Resuscitation Council UK a Chymdeithas y Prif Weithredwyr Ambiwlans.
Dywedodd Adam Fletcher, Pennaeth BHF Cymru: "Er mwyn i'r Circuit achub bywydau, mae'n hanfodol bod degau o filoedd o ddiffibrilwyr sydd heb eu cofrestru ar draws y DU yn cael eu rhoi ar y system.
"Os 'da chi, neu unrhyw un 'da chi'n 'nabod, yn gyfrifol am ddiffibrilydd, yna rydym ni'n eich annog i gofrestru'r ddyfais ar y Circuit.
"Mi allech chi helpu achub bywyd rhywun."