Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ysgol Abersoch: Ailedrych ar y penderfyniad i'w chau
Bydd cynghorwyr yn edrych eto ar benderfyniad dadleuol i gau Ysgol Abersoch yng Ngwynedd.
Ddiwedd mis Medi pleidleisiodd y cabinet yn unfrydol dros gau'r ysgol ar 31 Rhagfyr eleni, er bod nifer o bobl wedi gwrthwynebu hynny yn ystod cyfnod ymgynghori.
Roedd pryderon am effaith cau'r ysgol ar yr iaith Gymraeg yn y pentref.
Nawr mae tri aelod o'r cyngor - Beth Lawton, Alwyn Gruffydd ac Elwyn聽Jones - wedi cwestiynu'r penderfyniad, gan godi rhai pwyntiau na chafodd eu hystyried, yn 么l y tri.
Bydd y mater yn cael ei drafod ymhellach gan y Pwyllgor Craffu ar 21 Hydref.
'Anghywir a chamarweiniol'
Nid oes gan y Pwyllgor Craffu Addysg a'r Economi yr hawl i wyrdroi'r penderfyniad, ond os yw'r pwyntiau sy'n codi yn y cyfarfod yn rhai dilys, gall y pwyllgor gyfeirio'r penderfyniad yn 么l i sylw'r cabinet.
Mae'r materion a godwyd ganddynt yn cynnwys:
- Honiadau bod yr adroddiad ar ddyfodol yr ysgol yn "anghywir ac yn gamarweiniol" yn nhermau ei "effaith ar y gymuned", ac ar yr iaith Gymraeg;
- Methiant i gymryd tai a swyddi lleol i ystyriaeth, gyda gwesty newydd yn y pentref yn addo creu 40 o swyddi, a bod tir yn cael ei glustnodi ar gyfer 15 o dai ym Mryn Garmon.
Maent hefyd yn cwestiynu cau'r ysgol yng nghanol y flwyddyn academaidd, gan hawlio y bydd yn ddryslyd i blant; yn cael "effaith negyddol ar eu haddysg", ac nad oedd eglurhad rhesymegol tu 么l i'r penderfyniad.
Roedd Cymdeithas yr Iaith yn chwyrn yn erbyn cau'r ysgol, gan ddweud bod y cyngor yn "tanseilio ei bolis茂au tai ac iaith trwy gefnu ar Abersoch", ac maent wedi croesawu'r ffaith bod y mater wedi cael ei alw i mewn am ystyriaeth gan y pwyllgor craffu.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas: "Gofynnwn i'r pwyllgor wahodd cynrychiolwyr o blith llywodraethwyr yr ysgol i'w hannerch am eu cynlluniau cyffrous ar gyfer dyfodol yr ysgol, a gofynnwn i'r pwyllgor argymell fod y cabinet yn ailystyried cydweithio gyda'r partneriaid lleol brwd hyn yn hytrach na chefnu ar gymuned leol sydd mewn angen."