Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cymru'n wynebu gemau rhagbrofol Cwpan y Byd
Mae tîm pêl-droed Cymru yn wynebu'r gemau mwyaf allweddol o'u hymgyrch hyd yma i gyrraedd Cwpan y Byd wrth iddyn nhw chwarae dwy gêm ragbrofol oddi cartref dros y dyddiau nesaf.
Bydd yn rhaid i Gymru drechu'r Weriniaeth Tsiec yn Prague ac Estonia yn Tallinn er mwyn cadw eu gobeithion prin o ennill y grŵp yn fyw.
Ond unwaith eto mae anafiadau wedi cynnig sialens sylweddol i'r rheolwr Rob Page, wrth i sawl chwaraewr profiadol dynnu'n ôl o'r garfan.
Cafodd y capten Gareth Bale ei adael allan o'r garfan wreiddiol, gan fethu ei gyfle i ennill ei 100fed cap oherwydd anaf i'w linyn y gar.
Bydd Cymru'n herio'r Weriniaeth Tsiec nos Wener, cyn teithio i wynebu Estonia nos Lun.
Ar ben yr ergyd yma, yn y dyddiau diwethaf bu rhaid i Rhys Norrington-Davies a Tom Lockyer dynnu'n ôl gydag anafiadau, ac mae Ben Davies a David Brooks wedi aros adref oherwydd salwch.
Ond mae disgwyl y bydd Aaron Ramsey yn chwarae ei gêm gyntaf i'r tîm cenedlaethol ers yr Euros wedi i Page ddweud ddydd Iau mai ef fydd capten Cymru yn Prague.
Beth sydd rhaid i Gymru ei wneud?
Mae Cymru yn drydydd yng Ngrŵp E ar hyn o bryd, naw pwynt tu ôl i Wlad Belg ar y brig, ond wedi chwarae dwy gêm yn llai.
I gael unrhyw obaith o ennill y grŵp a chyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, mae rhaid i Gymru ennill y ddwy gêm sydd i ddod dros y dyddiau nesaf.
Ni fydd hyn yn hawdd - llwyddodd Estonia i gyfyngu Cymru i gêm gyfartal ddi-sgôr siomedig fis diwethaf, ac fe gafodd y Weriniaeth Tsiec dwrnament cryf yn ystod Euro 2020.
Hyd yn oed pe bai Cymru'n llwyddo i sicrhau chwe phwynt o'r gemau nesaf, maent yn dal i wynebu'r sialens o drechu Gwlad Belg, gan hefyd obeithio bod arweinwyr y grŵp yn colli pwyntiau mewn gêm arall.
Felly'r gemau ail-gyfle sy'n ymddangos fel y llwybr mwyaf realistig i Gymru i gyrraedd Cwpan y Byd yn Qatar.
Er bod Cymru bron yn siŵr o gyrraedd y rheiny oherwydd eu perfformiad yng Nghynghrair y Cenhedloedd, mae'n dal yn bwysig iddynt anelu at gipio'r ail safle yn y grŵp.
Trwy orffen yn ail fe fyddai gan Gymru lwybr haws trwy'r gemau ail-gyfle, ac fe fydden nhw hefyd yn chwarae o flaen cefnogaeth y Wal Goch gartref.
Prif gystadleuydd Cymru am y safle hwnnw yw'r Weriniaeth Tsiec - sydd ar y blaen i Gymru ar wahaniaeth goliau ond wedi chwarae un gêm yn fwy.