Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ciwiau hir am betrol er bod 'argaeledd da' yng Nghymru
Does dim prinder petrol yng Nghymru, serch problemau mewn mannau eraill yn y DU, yn 么l dwy archfarchnad.
Mae rhai gorsafoedd petrol wedi gweld ciwiau hir yn dilyn problemau wrth gludo'r tanwydd o gwmpas y DU.
Mae rhai safleoedd BP a Tesco Alliance wedi eu gorfodi i gau dros y dyddiau diwethaf.
Ond yn 么l Asda a Tesco, dyw'r problemau ddim yn effeithio ar orsafoedd yng Nghymru.
Dywedodd Asda bod pob un o'i orsafoedd yn y wlad dal ar agor ac yn 么l Tesco mae "argaeledd da" o betrol yng Nghymru.
Mae rhai wedi beirniadu gyrwyr am brynu mewn panig yn dilyn yr adroddiadau o brinder mewn rhai mannau yn y DU.
Dywedodd Steve Coombe o'r Petrol Retailers Association y gallai pobl yn brysio i'r gorsafoedd petrol greu prinder gwirioneddol.
"Mae'n rhaid i bawb bwyllo, mae 'na ddigonedd o stoc," meddai.
"Mae'r tanwydd yn cael ei ail-lenwi yn y safleoedd sydd wedi gweld problemau."
Dywedodd Sion Jones o orsaf Valley Services yn Llandysul y byddai'n rhaid ystyried cyfyngu gwerthiant tanwydd os yw'r un nifer o gwsmeriaid yn parhau.
"Mae hi wedi bod fel ffair drwy'r bore. Mae s锚ls bore 'ma wedi dwblu ar gyfer dydd Gwener fel rheol.
"Mae heddi wedi mynd yn sgrech. Y wasg sydd wedi creu hyn. Mae prinder drivers wedi bod ers tri neu bedwar mis.
"Os eiff pethe 'mlaen bydd rhaid torri 'n么l ar faint mae pobl yn medru cael yn ystod y dydd."
Mae'r problemau gyda chyflenwadau petrol yn gysylltiedig 芒 phrinder gyrwyr lori, gyda'r DU yn brin o tua 100,000 o yrwyr yn 么l rhai amcanion.
Mae'r diffyg gyrwyr wedi'i waethygu gan effeithiau'r pandemig a Brexit.
Mae鈥檔 flin gennym ein bod yn cael trafferth dangos y post hwn.
Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.Diwedd neges Facebook