Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: Mor芒l yn 'eithriadol o isel'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae criwiau ambiwlans Cymru yn treulio sifftiau cyfan yn aros i ddadlwytho cleifion, yn 么l gweithiwr rheng flaen.

Gyda'r gwasanaeth dan bwysau cynyddol o'r don Covid ddiweddaraf, dywedodd Paul Amphlett fod mor芒l yn "eithriadol o isel".

Daw wrth i Wasanaeth Ambiwlans Cymru ofyn yn ffurfiol am gymorth milwrol.

Bydd y Ceidwadwyr yn galw ar weinidogion i ddatgan argyfwng yn y gwasanaeth mewn dadl yn y Senedd yn ddiweddarach.

Dywedodd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru y bu o dan "bwysau sylweddol a pharhaus" yn ystod y misoedd diwethaf, a'i bod yn dechrau dychwelyd at rywfaint o'r trefniant a oedd ganddi ar anterth y pandemig.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod wedi sicrhau bod cyllid o 拢25m ar gael i wella'r modd y darperir gwasanaethau gofal brys a brys.

Mae ffigyrau o fis Gorffennaf yn dangos mai dim ond 57.8% o'r galwadau coch - y mwyaf difrifol - yr ymatebwyd iddyn nhw o fewn wyth munud.

Derbyniodd y gwasanaeth fwy o alwadau ym mis Mehefin nag mewn unrhyw fis ers i'r pandemig ddechrau.

Ychydig wythnosau yn 么l roedd chwaraewr rygbi o Fachynlleth hefyd yn wynebu aros chwe awr i ambiwlans fynd ag ef i'r ysbyty ar 么l anaf difrifol.

Ymddeolodd Paul Amphlett fel parafeddyg chwe blynedd yn 么l ac mae bellach yn gweithio'n rhan-amser fel technegydd meddygol brys yn Aberhonddu.

"Nid wyf erioed wedi ei gweld sefyllfa cynddrwg ag y mae ar hyn o bryd, yn yr ystyr bod mor芒l yn eithriadol o isel," meddai wrth 91热爆 Cymru.

"Wnes i ddim ymuno 芒'r gwasanaethau ambiwlans i warchod cleifion y tu allan i ysbytai am wyth, 12 awr."

Ffynhonnell y llun, Paul Amphlett

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Paul Amphlett nad oes "unrhyw saib" yn y galw am ambiwlansys

Dywedodd Mr Amphlett, 59, fod y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan, yn anghywir pan ddywedodd wrth y Senedd yr wythnos diwethaf fod y gwasanaeth dan "bwysau go iawn" ond "ni fyddwn yn ei ddisgrifio fel argyfwng".

"Mae'n argyfwng," meddai Mr Amphlett, gan ychwanegu bod cynnydd diweddar yn y galw yn "warthus".

Roedd criwiau o'i ardal ym Mhowys yn cael eu hanfon ar draws de Cymru oherwydd bod y gwasanaeth mor estynedig.

'Does dim saib'

"Pan ddechreuodd y pandemig fe aeth yn dawelach, ond yn ystod y 12 mis diwethaf mae wedi cynyddu'n aruthrol. Does dim saib. Mae'n gyson.

"Allen nhw ddim [y cleifion] cael gafael ar feddygon teulu. Maen nhw'n ffonio 111 ac yn siarad 芒 phobl yn dweud wrthyn nhw am ffonio am ambiwlans oherwydd na allen nhw gael meddyg."

Mae pryder y bydd tymor ffliw difrifol y gaeaf hwn, ynghyd ag effeithiau'r pandemig, yn rhoi mwy o straen ar y GIG.

Dywedodd Mr Amphlett fod cyfnod clo wedi arwain at lai o gleifion 芒'r ffliw y gaeaf diwethaf, ond: "Os yw'n digwydd y gaeaf hwn, nid wyf yn gwybod sut y byddan nhw'n ymdopi."

Gwrthododd Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru ymateb i sylwadau Mr Amphlett.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r fyddin wedi bod yn cynorthwyo'r gwasanaeth ambiwlans ledled y DU

Ddydd Mercher bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn arwain dadl yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng yn y gwasanaeth.

Maen nhw eisiau "cynllun cynhwysfawr i wella amseroedd ymateb", cynyddu capasiti gwelyau a hybu mynediad at apwyntiadau gofal sylfaenol wyneb yn wyneb.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Bydd y Fyddin yn rhoi'r help sydd ei angen ar staff ein ambiwlans yn ystod yr amseroedd heriol hyn, ond mae'n drueni na wnaed hyn yn gynt gan Lywodraeth Lafur Cymru."

Trydydd cais am y fyddin

Mae'r fyddin wedi cynorthwyo'r GIG trwy gydol y pandemig Covid - os cymeradwyir cais yr ymddiriedolaeth a wneir trwy Lywodraeth Cymru, dyma'r trydydd tro y bydd y fyddin wedi helpu'r gwasanaeth.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford wrth y Senedd ddydd Mawrth fod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cymeradwyo'r mwyafrif o geisiadau yn ystod y pandemig, ond nid pob un.

Dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn sicrhau "ein bod ni'n gwneud y cais gorau posib".

Roedd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, wedi cynnig cymorth milwrol mewn llythyr at Lywodraeth Cymru a anfonwyd yn gynharach ym mis Medi.

Mae mwy na 200 o filwyr wedi helpu i yrru a dadheintio ambiwlansys, gan gynnwys 90 a ymrestrodd ar Noswyl Nadolig ar anterth ail don y pandemig.

Gwnaed ceisiadau tebyg yn Yr Alban ac mewn rhannau o Loegr.