Gallai'r argyfwng ynni effeithio ar gyflenwadau bwyd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dywed un prosesydd bwyd ei bod hi'n bosib y bydd llai o fwyd ar y silffoedd

Mae cwmni sy'n prosesu oddeutu miliwn o gywion yr wythnos yn Sir y Fflint yn dweud y byddant yn gorfod prosesu llai os yw safleodd CF Industries yn Sir Caer a Teesside yn parhau ar gau.

CF Industries yw un o gynhyrchwyr carbon deuocsid mwyaf Prydain a'r wythnos ddiwethaf fe ddaeth y gwaith o gynhyrchu CO2 i ben oherwydd prisiau uchel nwyon naturiol.

Dywed cwmni bwyd 2 Sisters ei bod hi'n bosib y byddan nhw'n cynhyrchu 10% yn llai o gywion o fewn dyddiau.

"Fe fydd hyn yn effeithio ar argaeledd y cywion mewn siopau o fewn wythnos," meddai Ranjit Singh Boparan - sefydlydd a llywydd y cwmni.

Disgrifiad o'r fideo, A fydd twrci i ginio Nadolig eleni?

"Mae gennym bedwar neu bum diwrnod yn weddill, yna bydd yn rhaid i ni ostwng yr hyn ry'n yn ei gynhyrchu 10% - sef dros hanner miliwn o gywion yr wythnos.

"Mae'r effaith ar ffermydd yn ofnadwy - efallai na fydd rhai yn gallu goroesi."

Mae nwy CO2 yn cael ei ddefnyddio i wneud cywion yn anymwybodol cyn iddynt gael eu lladd ac yna yn cael ei ddefnyddio yn ystod y broses o becynnu.

Mae gan gwmni 2 Sisters ffatri yn Llangefni yn ogystal 芒 saith ffatri brosesu arall ar draws y DU ac ers 2016 nhw sy'n gweithredu busnes twrci Bernard Matthews.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Ffatri 2 Sisters yn Llangefni yw'r unig un sy'n prosesu cywion cyfain

Wrth siarad 芒'r 91热爆 dywedodd Mr Boparan fod y sector cynhyrchu bwyd eisoes yn wynebu heriau o ran cael digon o weithwyr.

"Mae hwn yn fater arall y gellid fod wedi ei osgoi," meddai.

Dywed bod yn rhaid i Lywodraeth y DU weithredu i sicrhau bod safleoedd CF Industries yn ailagor.

"Rhaid i'r llywodraeth ymyrryd a sicrhau bod y ffatr茂oedd yn ailagor," meddai.

"Mae'n debyg i'r cynllun ffyrlo - rhaid iddynt ymyrryd a chynnig pecyn iddyn nhw.

"Rhaid cael y ddwy ffatri ar agor eto er mwyn arbed y Nadolig a diogelu y gadwyn fwyd."

Ofnau am gwrw hefyd

Mae yna ofnau hefyd y bydd yr argyfwng yn arwain at brinder cwrw.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Martin Jones bod gan gwmni Wrexham Lager ddigon o nwy CO2 am wythnos

Mae nwy carbon deuocsid yn cael ei ddefnyddio i wneud diodydd wedi'u carboneiddio a chwrw ac yn cael ei ddefnyddio ar ffurf i芒 sych i becynnu a chludo bwyd.

Dywedodd Martyn Jones, llywydd cwmni Wrexham Lager, y byddant yn wynebu trafferthion petai'r sefyllfa CO2 yn parhau.

"Ry'n ni fod i gael cyflenwad heddiw ond 'dan ni ddim yn gwybod a gawn ni yr hyn 'dan ni wedi ei archebu gan fod pawb angen cyflenwad."

Ychwanegodd bod ganddynt ddigon o nwy i bara am wythnos ac os na fyddant yn cael mwy y byddant "mewn picil go iawn" .

Disgrifiad o'r llun, Dywed Kathryn Jones o gwmni Castell Howell bod y cwmni yn disgwyl clywed faint o nwy a fyddan nhw'n ei dderbyn

Yn Sir Gaerfyrddin, dywed cwmni bwyd Castell Howell eu bod wedi cael addewid o gyflenwad tair wythnos o nwy ond eu bod yn dal i ddisgwyl a fydd hynny yn digwydd.

"Ry'n yn defnyddio CO2 bob dydd ar gyfer pacio cig moch wedi'i goginio," meddai'r cyfarwyddwr Kathryn Jones.

Dywedodd ei bod yn disgwyl clywed ddydd Iau faint mwy o nwy y gallant ei ddisgwyl.

"Mae'r llywodraeth wedi cael llawer o amser i ddelio 芒 hyn. Mae'r mater wedi bod yn corddi yn y cefndir," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dywed cwmni Iceland nad ydynt yn poeni'n ormodol ar hyn o bryd

Dywed Richard Walker, rheolwr gyfarwyddwr cwmni Iceland sydd 芒'i bencadlys yng Nghymru, bod ei gwmni yn cysylltu'n gyson 芒 chyflenwyr ac nad oes problemau ar hyn o bryd er bod rhai yn bryderus.

Dywedodd hefyd bod y cwmni yn ceisio cael mwy o stoc ond ei fod yn hyderus na fydd y sefyllfa yn effeithio cymaint arnyn nhw nag ar gwmn茂au tebyg.

Ychwanegodd: "Ond rwy'n credu bod yn rhaid i'r llywodraeth roi blaenoriaeth i gyflenwadau CO2 a rhoi arian tuag at gynhyrchu bwyd fel nad yw'r argyfwng yn effeithio'n ormodol ar gyflenwadau archfarchnad.

"Rhaid i hyn gael ei ddatrys cyn gynted 芒 phosib."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae CO2 芒 rhan allweddol yn y diwydiant bwyd - gan gynnwys carboneiddio diodydd

Mae 60% o garbon deuocsid y DU yn cael ei gynhyrchu gan CF Industries - sy'n un o sgil-gynhyrchion y diwydiant gwrtaith.

Dywed y prif weithredwr ei fod wedi cael trafodaethau brys gyda gweinidogion Llywodraeth y DU ond nad oes dyddiad eto ar gyfer ailgynhyrchu.

Dywed cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru y gallai prinder CO2 gael "cryn effaith ar fusnesau bwyd a diod yng Nghymru".

"Mae e'n llawer mwy na holi a fydd twrcis a chwrw ar gael yn ystod Nadolig eleni. Gallai'r cyfan gael effaith sylweddol ar gynhyrchwyr," meddai Andy Richardson.