Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ymateb cymysg wrth i Gymru gyflwyno pasys Covid
Mae ymgyrchwyr anabledd ymhlith y rheiny sydd wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno 'pas Covid' i fynychu rhai digwyddiadau.
Ond mae eraill, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r diwydiant lletygarwch, wedi mynegi pryder y gallai'r rheolau barhau i amharu ar allu clybiau i redeg eu busnes yn llwyddiannus.
Bydd yn rhaid i unrhyw un dros 18 sydd am fynd i glwb nos neu ddigwyddiad torfol ddangos eu bod nhw unai wedi cael eu brechu'n llawn, neu wedi cael prawf LFT negyddol yn y 48 awr ddiwethaf.
Fodd bynnag, gallai hynny fod yn broblem i rai gan fod problemau technegol wedi golygu nad yw brechiadau pawb yng Nghymru wedi eu cofnodi'n iawn eto.
'Dim manylion'
Mae Holly Greader, 23, o Gaerdydd yn dioddef o sawl salwch cronig, a dywedodd y byddai'n rhoi tawelwch meddwl iddi wrth fynd i ddigwyddiadau o wybod fod angen pasys Covid ar bobl eraill oedd yno hefyd.
Ond dywedodd yr ymgyrchydd anabledd y gallai'r rheolau fod hyd yn oed yn gryfach, gan ofyn am frechiad llawn a phrawf negyddol, a chynnwys bwytai a thafarndai hefyd.
"Mae gennym ni lawer o broblemau meddygol yn barod, a byddai ychwanegu Covid at hynny yn ein gwneud ni'n fwy s芒l," meddai.
"Gallai arwain at bwynt ble does gennym ni ddim dewis i fynd allan ai peidio, achos mae ein hiechyd wedi penderfynu drosom."
Rhybuddiodd David Chapman, cyfarwyddwr UK Hospitality yng Nghymru, y byddai'r pasys yn debygol o arwain at fwy o bobl yn cynnal part茂on yn eu tai yn hytrach na mynd i glybiau nos.
Ychwanegodd y byddai hynny'n peryglu'r tymor Nadolig i'r diwydiant, sydd yn torri boliau angen yr incwm yn dilyn y misoedd o gyfyngiadau.
"Dydy'r newid yma ddim wedi dod gyda manylion, dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd y sgil effeithiau ar gyfer tafarndai sy'n troi'n glybiau nos, neu sut 'dyn ni'n trin pobl sy'n dod i'r clwb heb drwydded," meddai.
"Mae cymaint o ansicrwydd mae'n rhaid i'r diwydiant nawr geisio datrys mewn cyfnod o dair wythnos - dydy hynny ddim yn helpu ymarferoldeb."
Problemau cyfrifiadurol
Mae pryderon hefyd wedi codi fod problemau technegol yn golygu nad yw rhai brechiadau wedi cael eu cofnodi, gan olygu y byddai pasys rhai pobl yn anghyflawn.
Dywedodd Christine Hire, 61, o Lanelli ei bod hi wedi darganfod nad oedd ei hail frechiad ar ei record wedi iddi geisio cael tystysgrif Covid cyn mynd ar wyliau gyda'i g诺r i Jersey.
"Fe ddywedon nhw fod angen i fi barhau i wirio, ond roedd hyn yn 么l ym mis Mehefin - pa mor hir mae hwn am gymryd i ddatrys?" meddai.
"Fe ddywedon nhw wrtha i fod [y broblem gyfrifiadurol] wedi effeithio ar filoedd o bobl.
"Bydd rhaid i fi fynd gyda fy mhas papur, dwi jyst yn gobeithio y bydd hynny'n ddigon."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "ymwybodol o broblemau technegol... mewn lleiafrif o achosion ac yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatrys hyn".