Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Bydd pobl yn colli dannedd' heb lacio rheolau deintyddion
Mae rhai deintyddion yn rhybuddio y gall pobl yng Nghymru golli eu dannedd os nad yw cyfyngiadau Covid yn cael eu llacio ymhellach i alluogi mwy o apwyntiadau.
Cafodd apwyntiadau rheolaidd eu gohirio yn ystod y cyfnodau clo, ac am fisoedd roedd deintyddion ond yn gweld cleifion ar gyfer gofal brys.
Nawr mae cyfnodau ble nad oes modd gweld cleifion oherwydd rheolau Covid, sy'n creu rhestrau aros hir, yn 么l y Gymdeithas Ddeintyddol Brydeinig (CDP).
Mae deintyddion yn pryderu y bydd oedi'n golygu na fydd rhai problemau'n cael eu hadnabod yn ddigon buan, fel clefyd deintgig a chanser.
Mae'r CDP yn galw am lacio rheolau er mwyn i fwy o bobl gael eu trin.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod 拢450,000 wedi'i ddarparu er mwyn trin mwy o gleifion.
Sut mae'r pandemig wedi effeithio deintyddion?
Yn ystod y pandemig, gostyngodd nifer yr apwyntiadau oedd yn cael eu cynnal yn y GIG yng Nghymru o 97%.
Cafodd 1.1m o apwyntiadau eu cynnal rhwng Ionawr a Mawrth 2020, ond rhwng Ebrill a Mehefin gostyngodd y nifer i 22,713.
Er bod triniaethau rheolaidd wedi ailddechrau wrth i gyfyngiadau lacio, mae'n rhaid i ddeintyddion gadw at fesurau hylendid llym oherwydd Covid-19.
Os yw deintyddion yn defnyddio aer, er enghraifft mewn triniaethau llenwi neu lanhau, rhaid glanhau ac awyru'r ystafell cyn gweld y claf nesaf.
Yn 么l y deintydd Russell Gidney, cadeirydd pwyllgor Cymreig y CDP, mae'r rheolau yn creu "tagfeydd" yn y system.
Dywedodd bod rhai deintyddfeydd yn medru derbyn y claf nesaf mewn 10 munud, ond bod eraill yn gorfod aros hyd at awr oherwydd diffyg offer addas.
O ganlyniad, esboniodd, mae hi nawr yn anodd gweld pobl yn gyson, heblaw ar gyfer apwyntiadau brys.
Problemau posib
Pryder Mr Gidney yw bydd problemau bach sydd ddim yn amlwg i gleifion, fel twll bychan yn y dant, yn datblygu i broblem fwy os nad yw pobl yn medru trefnu apwyntiadau rheolaidd.
"Mae'n golygu bod pobl yn mynd i golli dannedd allwn ni fod wedi cadw," meddai.
"Erbyn i broblemau ddod i'r amlwg, ni'n delio gyda llenwadau neu gymryd dannedd allan, mae yna hefyd bethau fel clefyd deintgig a chanser, sydd weithiau heb unrhyw symptomau.
"Mae symptomau ar gyfer clefyd deintgig ond yn amlwg pan mae'r dant yn rhydd yn barod, ac erbyn hynny mae'n rhy hwyr."
Dywedodd Mr Gidney ei fod yn poeni y gallai pobl wynebu problemau ar 么l newidiadau i'w ffordd o fyw yn ystod y cyfnod clo.
Ychwanegodd y dylai rheolau gael eu llacio nawr bod gymaint o bobl wedi derbyn brechlyn.
"Mae'n achosi nosweithiau lle 'da ni methu cysgu ar hyn o bryd," dywedodd.
"Oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod pa mor hir mae'n mynd i gymryd i ni gyrraedd y lle hwnnw."
'O'n i mewn cymaint o boen'
Ceisiodd Rebecca Cotterell o Gaerdydd gael apwyntiad ar gyfer poen yn ei dant yng nghanol 2020.
Dywedodd ei phractis mai achosion brys yn unig oedd yn cael eu trin ar y pryd.
Yn y diwedd, cafodd ei gweld mis Mai eleni i gael llenwad dros dro, ond dywedodd ei deintydd y bydd rhaid cael apwyntiad ym Medi i drefnu datrysiad parhaol.
"Cyrhaeddais y pwynt lle nad oedd painkillers arferol yn gweithio rhagor," meddai.
"Fel rhiant i blentyn eitha' egn茂ol, roedd hi'n drist i beidio medru cymryd nhw allan i 'neud pethau oherwydd o'n i mewn cymaint o boen."
Er y llenwad, gwaethygodd ei phoen ac yn mis Awst derbyniodd driniaeth brys i dynnu'r dant.
Dywedodd Ms Cotterell er ei bod hi'n teimlo'n ddiolchgar i'r GIG, doedd methu gweld deintydd am fisoedd "ddim yn ddelfrydol pan oeddwn i mewn poen".
Ymateb y llywodraeth
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod 拢450,000 wedi'i ddarparu er mwyn trin mwy o gleifion.
Mae'r llywodraeth hefyd wedi mynnu nad yw apwyntiadau rheolaidd wedi stopio'n gyfan gwbl yn ystod y pandemig, ond fel holl wasanaethu'r GIG eu bod nawr yn cael eu darparu "ar sail anghenion".
"Ers dechrau'r pandemig, mae deintyddion wedi trin 1.5m o bobl a darparu 350,000 o ymgynghoriadau ar y we neu dros y ff么n," meddai llefarydd.
"Mae deintyddiaeth wedi bod yn un o'r gwasanaethau mwyaf heriol i ni ddarparu yn ystod y pandemig oherwydd yr aerosolau sy'n cael eu defnyddio yn ystod triniaethau fel llenwadau a'r agosrwydd rhwng deintydd a chlaf sydd angen PPE gwell."