Cyngor i brofi disgyblion uwchradd yn rheolaidd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer plant sy'n dychwelyd i'r dosbarth ym mis Medi yn cynnwys cymryd prawf canlyniad cyflym ddwywaith yr wythnos yn achos disgyblion uwchradd.

Hefyd mae angen i ddisgyblion uwchradd a myfyrwyr coleg gymryd dau brawf, dridiau ar wah芒n, yn yr wythnos cyn diwrnod cyntaf y tymor.

Yn achos ysgolion cynradd dim ond staff sy'n gorfod cymryd profion rheolaidd.

Dywed undeb y prifathrawon, NAHT Cymru eu bod yn "croesawu" profi cyson.

Bydd rhaid i ddisgyblion hunan-ynysu a threfnu prawf PCR petawn nhw'n cael canlyniad positif wrth brofi eu hunain gartref.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd disgwyl i ddisgyblion barhau i olchi eu dwylo yn rheolaidd a chael brechiad os yw ar gael

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cymryd y profion yn rheolaidd yn helpu "adnabod dysgwyr heintus cyn iddynt adael y cartref i fynd i'r ysgol".

Bydd disgwyl i ddisgyblion Blwyddyn 7 ac uwch i barhau i wisgo mygydau mewn mannau cymunedol ysgolion ac ar drafnidiaeth ysgol.

Y canllawiau i ddisgyblion ar gyfer dechrau'r tymor newydd

  • Cael brechiad os yw un yn cael ei gynnig;
  • Parhau i olchi'r dwylo'n gyson;
  • Rhaid i unrhyw ddisgybl neu aelod staff aros adref a threfnu prawf PCR os oes gyda nhw symptomau Covid-19, waeth pa mor ysgafn;
  • Dylai staff ysgolion cynradd, a staff a disgyblion ysgolion uwchradd gymryd dau brawf canlyniad cyflym yn yr wythnos cyn y diwrnod cyntaf yn 么l;
  • Dylid barhau wedyn i gymryd prawf canlyniad cyflym ddwywaith yr wythnos;
  • Dylai disgyblion Blwyddyn 7 ac uwch barhau i orchuddio'r wyneb wrth deithio i'r ysgol neu'r coleg.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Jeremy Miles bod pobl 16 a 17 oed wedi cael cynnig dos cyntaf o'r brechlyn, ynghyd 芒 phobl ifanc bregus rhwng 12 a 15 oed.

"Trwy barhau i ddilyn y mesurau hyn, gallwn oll edrych ymlaen at ddechrau blwyddyn fwy diogel a sefydlog ble taw'r ysgolion a'r colegau fydd y llefydd mwyaf saff i fyfyrwyr fod," meddai.

Dywedodd Laura Doel, cyfarwyddwr undeb NAHT Cymru, eu bod yn "croesawu parhad y profion canlyniadau cyflym fel un o'r mesurau lliniaru".

"Fodd bynnag, tra bo'r profion 芒 rhan i'w chwarae i atal lledaeniad Covid-19, ni ddylid fod yr unig fesur i ddibynnu arno.

"Mae'n hanfodol, wrth i achosion ddechrau cynyddu yng Nghymru, ein bod yn cynnal mesurau cadarn mewn ysgolion i warchod dysgwyr a staff."