Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynnig brechlyn i bobl 16 a 17 oed Cymru cyn y penwythnos
Bydd pob person 16 a 17 oed yng Nghymru yn derbyn eu cynnig o frechlyn coronafeirws erbyn diwedd yr wythnos hon, meddai'r gweinidog iechyd.
Daw hyn yn dilyn cyngor gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) ar frechu pobl dros 16 oed.
Mae tua 67,142 o bobl yn y gr诺p oedran hwnnw yng Nghymru.
Mae clinigau lle nad oes angen apwyntiad ar agor ledled Cymru fel y gall pobl dderbyn dos.
Mae byrddau iechyd wedi bod yn cynnal clinigau symudol, yn siarad 芒 chyflogwyr mawr ac yn sefydlu cludiant i ganolfannau brechu, yn ogystal 芒 gweithio gyda phobl agored i niwed ar sail un i un.
'Nid yw'n rhy hwyr'
Anogodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, unrhyw un sydd heb dderbyn cynnig o bigiad i gysylltu gyda'u bwrdd iechyd yn lleol.
"Mae ein rhaglen frechu yn arwain y byd, ond rydyn ni'n gwybod bod yna rai pobl sydd heb dderbyn y cynnig o frechlyn," meddai Ms Morgan.
"Rydym yn arbennig o awyddus i sicrhau bod pobl ifanc, gan gynnwys y rhai dros 16 oed sydd bellach yn gymwys i gael y brechlyn, yn manteisio ar y cynnig fel eu bod mewn risg is o effeithiau coronafeirws nawr eu bod yn gallu cymdeithasu mwy.
"Nid yw'n rhy hwyr i gael eich brechlyn."
Yn Lloegr, mae disgwyl i bobl 16 a 17 oed gael cynnig dos cyntaf erbyn 23 Awst.