Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Statws bwyd gwarchodedig i gig oen 'unigryw' o G诺yr
Mae cig oen o forfeydd heli de Cymru wedi derbyn statws bwyd gwarchodedig o dan gynllun newydd y Deyrnas Unedig.
Mae'r cig oen o G诺yr - sy'n pori ar suran, llyrlys a lafant y m么r - y cynnyrch cyntaf o Brydain i dderbyn statws gwarchodedig ers gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Sefydlwyd cynllun Dynodiadau Daearyddol y DU (GI) i ddisodli cynllun blaenorol yr UE, a'r nod yw diogelu cynnyrch arbennig o ranbarth penodol rhag cael ei danseilio gan gop茂au o fannau eraill yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Ni fydd y statws yn diogelu cynnyrch rhag cael ei gop茂o mewn gwledydd Ewropeaidd, ond mae'n bosib i gynhyrchwyr wneud cais am statws warchodedig ar wah芒n yn yr UE.
Erbyn hyn mae yna 17 o eitemau ar restr GI Cymru gan gynnwys Halen M么n, Ham Caerfyrddin a Chaws Caerffili.
'Blas gwahanol iawn'
Mae'r brodyr Dan a Will Pritchard o Fferm Castell Weobley y drydedd genhedlaeth i gynhyrchu cig oen ar forfa heli G诺yr, gan fagu tua 1,000 o ddefaid bob blwyddyn.
Dywedon nhw fod llystyfiant penodol ar Benrhyn G诺yr yn creu cig gyda blas "gwahanol iawn".
"Mae'r cig oen ar y fferm yn unigryw yng Nghymru a Prydain achos mae defaid ac 诺yn yn byw ar y morfa ac mae'n le arbennig iawn; mae gyda fe laswellt gwahanol iawn i gae neu mynydd ac mae blas y cig yn arbennig," meddai Will.
"'Da ni'n brysur iawn ar y foment gyda chwsmeriaid, tai bwytai a thafarndai yn yr ardal.
"Dwi 'chydig bach yn nerfus, ond dwi'n meddwl bod [y statws] yn wych."
Yn hanesyddol, mae morfeydd heli gogledd G诺yr wedi cynnal miloedd o ddefaid ac ar hyn o bryd maent yn cael eu pori gan 3,500 o 诺yn y flwyddyn.
Mae'n gynnyrch tymhorol sydd ar gael o fis Mehefin tan ddiwedd mis Rhagfyr.
'Gwych'
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart: "Mae'n wych gweld cig oen morfa heli G诺yr yn cael ei ychwanegu ar y rhestr o gynhyrchion eiconig o Gymru.
"Mae gwarantu dilysrwydd bwyd a diod o Gymru yn helpu i gadarnhau ein henw da am ansawdd yma gartref ond hefyd mewn marchnadoedd rhyngwladol newydd," meddai.
Ers gadael yr UE, mae Llywodraeth y DU wedi dod yn gyfrifol am sicrhau bod cynhyrchion diwylliannol yn cael eu hamddiffyn.
"Dywedodd Gweinidog Bwyd y DU, Victoria Prentis, bod GIs yn "gwarantu ansawdd a rhagoriaeth i bobl sy'n hoff o fwyd gartref ac o amgylch y byd".