Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dyn wedi marw ar 么l mynd i drafferthion yn y m么r ym Mhen Ll欧n
Mae dyn wedi marw ar 么l mynd i drafferthion yn y m么r ar draeth Porth Neigwl ym Mhen Ll欧n ddydd Gwener.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad am 14:45 yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei dynnu o'r d诺r.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, gan gynnwys gwylwyr y glannau a'r gwasanaeth ambiwlans, bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.
Yn dilyn y digwyddiad mae cynghorydd o blwyf Llanengan yn galw am gael achubwyr bywyd ar draeth Porth Neigwl.
'Angen achubwyr bywyd'
Dywedodd yr heddlu bod swyddogion yn rhoi cefnogaeth i deulu'r dyn fu farw, a'u bod y meddwl am y teulu "ar gyfnod eithriadol o anodd".
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru mewn datganiad: "Cawsom ein galw i adroddiadau o argyfwng meddygol ar draeth Porth Neigwl am 14:35 ddydd Gwener, 6 Awst.
"Cafodd Ambiwlans Awyr Cymru, dau gerbyd ymateb cyflym a dau ambiwlans eu gyrru i'r safle."
Roedd Anthony Robinson o Bradford ar wyliau ym Mhen Ll欧n gyda'i deulu yr wythnos ddiwethaf, ac roedd ar y traeth pan gafodd y dyn ei dynnu o'r d诺r ddydd Gwener.
Dywedodd nad oedd yn agos at y digwyddiad ond daeth rhywun draw ato i ofyn a oedd modd defnyddio ei fwrdd syrffio i atal y gwynt rhag amharu ar yr ymdrechion i achub y dyn.
Ychwanegodd bod y llanw yn dod i mewn yn sydyn felly bod y criw fu'n helpu i gadw'r gwynt draw wedi tynnu'r dyn oddi ar y traeth ac i mewn i ambiwlans.
Dywedodd Mr Robinson bod ymateb y gwasanaethau brys wedi bod yn "anhygoel".
"Mae gen i barch enfawr atyn nhw," meddai.
Yn dilyn y digwyddiad mae'r cynghorydd John Brynmor Hughes yn galw am achubwyr bywyd ar draeth Porth Neigwl.
"Mae angen lifeguards yno ond mae hefyd angen cyfleusterau yno, ac mae hynny'n golygu gwario a phwy sydd am dalu?" meddai Mr Hughes.
"Mae'n drist bod 'na fywyd 'di cael ei golli... lle mae'n bosib fysa lifeguard wedi gwneud gwahaniaeth."
Ychwanegodd fod yna "lawer mwy o ymwelwyr" yn ymweld 芒'r traeth eleni yn sgil y pandemig.
"Mae'n draeth poblogaidd iawn efo'r syrffyrs ond erbyn heddiw mae 'na paddleboarding, bodyboarding... Mae'n draeth mawr felly mae 'na ddigon o le yno, ond mae'n draeth peryg efo riptide hegar yno," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Fel cyngor rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu'r unigolyn a fu farw ddydd Gwener.
"Er ei fod yn syfrdanol o hardd gall arfordir Gwynedd fod yn beryglus iawn, a gall traethau fod yn anrhagweladwy iawn o ran effaith a ph诺er tonnau a cheryntau.
"Rydym yn annog pob aelod o'r cyhoedd i gofio am beryglon o'r fath, i fod yn ofalus iawn a chymryd sylw o wybodaeth, arweiniad ac arwyddion rhybuddio penodol.
"Mae'r traeth ym Mhorth Neigwl yn anghysbell, yn cynnig cyfleusterau cyfyngedig iawn ac yn gorchuddio ardal sylweddol o'r Rhiw i Drwyn Cilan. Mae'n draeth deinamig iawn gyda llawer o donnau, yn enwedig yn ystod gwyntoedd cryfion o'r gorllewin ac ar adegau pan mae'r llanw'n uchel.
"Mae arwyddion rhybuddio ar waith sy'n cyfeirio at beryglon penodol yn y lleoliad hwn gan gynnwys ceryntau cryf a thonnau mawr sy'n torri. Mae'r arwyddion hefyd yn hysbysu'r cyhoedd nad yw'r traeth yn cael ei oruchwylio."