'Ry'n am i dorfeydd heidio i Dregaron yn 2022'

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Disgrifiad o'r llun, Roedd cryn fwrlwm pan gyhoeddwyd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Aberteifi yn 2019

"Ni wir yn gobeithio y bydd modd cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yn 2022 - fe fyddwn i wedi aros blynyddoedd ac mi fydd hi'n eisteddfod a hanner," medd Arwel Jones, cadeirydd y pwyllgor lleol.

Wrth siarad 芒 Cymru Fyw, dywed Mr Jones nad yw codi arian yn mynd i fod yn broblem gan fod y pwyllgor lleol eisoes wedi codi dros 拢400,000 - y targed gwreiddiol oedd 拢320,000.

"Ond fe fydd yn rhaid codi momentwm - a'r hyn allai weithio yw codi arian at yr eisteddfod ond at elusennau hefyd - mae elusennau wedi cael amser caled," ychwanega Mr Jones.

Darllen y Beibl ac yfed gin

"Cyn y pandemig roedden ni'n codi arian drwy ddarllen y Beibl o glawr i glawr a phrynu gin ac roedd llu o weithgareddau eraill yn denu pawb at ei gilydd. Ni'n gobeithio bydd hawl, cyn hir, i fwrw 'mlaen i gynnal mwy o ddigwyddiadau - yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf.

"Ond un peth sy'n sicr fyddwn ni ddim eisiau digwyddiad llai a ninnau wedi gorfod aros am amser mor hir. Wedi'r cyfan mae cannoedd lawer wedi bod yn cael mynd i gemau p锚l-droed a digwyddiadau eraill. Ry'n am i dorfeydd heidio i Dregaron."

Y bwriad bellach ydy cynnal y Brifwyl yn Nhregaron ym mis Awst 2022, gan symud Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd i Awst 2023 ac Eisteddfod Rhondda Cynon Taf i 2024.

'Ddim am gynnal digwyddiad llai o faint'

Ddechrau'r wythnos awgrymodd Betsan Moses, prif weithredwr y Brifwyl, y bydd rhaid i eisteddfod flwyddyn nesaf fod o bosib rywfaint yn wahanol yn sgil y pandemig.

Ond mae pwyllgor Eisteddfod Ceredigion yn gobeithio'n fawr y bydd modd cynnal g诺yl o'r un faint a fwriadwyd yn 2020.

Ffynhonnell y llun, Gorsedd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Elin Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Ceredigion yn cerdded y tu 么l i'r Archdderwydd

"Ni ddim eisiau 'steddfod sy'n llai na beth sydd wedi bod yn y gorffennol," medd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Elin Jones.

"Byddwn ni eisiau eisteddfod sy'n fwy ymhob ystyr y gair - a bydd y cyffro yn fwy, dwi'n si诺r, wedi i ni golli'r profiad byw am gyhyd."

Er nad yw hi wedi bod yn bosib cynnal llawer o ddigwyddiadau yn ystod y misoedd diwethaf mae nifer wedi bod yn cael gwersi dysgu Cymraeg ac mae llawer o'r dysgwyr yn gobeithio sitwardio ar y maes yn Nhregaron yn 2022.

Ffynhonnell y llun, Canolfan Aur Cymru

Disgrifiad o'r llun, 'Mae angen paratoi tipyn o flaen llaw ar gyfer y Brifwyl,' medd Rhiannon Evans o Ganolfan Aur Cymru

Dywed Rhiannon Evans o Ganolfan Aur Tregaron ei bod yn bwysig gwybod yn fuan sut brifwyl fydd hi.

"Fe fyddai'n dda cael gwybod beth yn union sy'n mynd i ddigwydd er mwyn i ni allu paratoi. Mae angen blwyddyn i baratoi be chi'n mynd i 'neud - mae eisiau rhyw fath o eglurder arnom ni ym mha ffordd y mae'r Eisteddfod yn mynd i newid," meddai.

"Mae profiad eleni a llynedd yn dangos bod modd edrych ar bethau yn wahanol... a dwi'n gobeithio y bydd y pwyllgor lleol yn gallu atgyfodi yr holl drefniadau ry'n wedi'u rhoi mewn lle yn barod ond hefyd bydd angen edrych beth yn ychwanegol ni'n gallu ei gynnig," ychwanegodd Elin Jones.

Disgrifiad o'r llun, Mae Delyth Hopkins Evans, Cadeirydd Pwyllgor Cerdd Eisteddfod Ceredigion, yn edrych ymlaen at gael cyd-ganu

"Rwy'n edrych ymlaen i weld y c么r yn dod at ei gilydd eto," medd Delyth Hopkins Evans, Cadeirydd Pwyllgor Cerdd Eisteddfod Ceredigion ac arweinydd y c么r yng nghymanfa ganu yr Eisteddfod.

"Gobeithio nawr y bydd modd i ni gwrdd ddechrau'r gwanwyn nesaf. Roedden ni wedi dechrau ymarfer cyn y pandemig.

"Ry'n ni wedi cwrdd rywfaint yn rhithiol ond dyw e ddim fel cyfarfod go iawn.

"Gobeithio y bydd y cyfyngiadau yn ein galluogi ni i gael ymarferion go iawn eto.

"Er bod cystadlu yn rhithiol wedi bod yn ffordd dda i gynnal rhai eisteddfodau - dyw e ddim yr un peth 芒 chystadlu go iawn. Allwch chi ddim beirniadu c么r o bell.

"Wi'n edrych ymlaen yn fawr i gael eisteddfod iawn yng Ngheredigion flwyddyn nesaf - ac yn edrych mla'n i ni gael canu eto - wedi'r cyfan gwlad y g芒n yw Cymru ac mae'n bwysig ailgydio yn y traddodiad."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd

Disgrifiad o'r llun, Bun rhaid canslo nifer o ddigwyddiadau codi arian yn sgil y pandemig

Dywed Michael Strain, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Ll欧n ac Eifionydd, ei fod e hefyd yn edrych ymlaen i gynnal digwyddiadau o fis Medi ymlaen.

Mae angen iddynt godi 拢400,000 yn lleol ac maent eisoes wedi cyrraedd chwarter y nod.

"Be sy'n bwysig," meddai, "yw cynnal digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol y bydd pobl yn eu mwynhau a chodi arian ar yr un pryd.

"Mae yna gryn edrych ymlaen yma at 2023."

Does dim penderfyniad hyd yma ar leoliad Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn 2024.