Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Angen i'r Eisteddfod barhau i arddangos yn rhithiol'
- Awdur, Sara Down-Roberts
- Swydd, 91热爆 Cymru Fyw
Mae arddangos gwaith yn rhithiol yn un o'r pethau da sydd wedi dod allan o'r pandemig, yn 么l un o'r artistiaid fydd yn arddangos ei gwaith yn rhithiol yn Lle Celf yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon.
"Dwi wrth fy modd fy mod wedi cael fy newis," meddai Llio James sy'n wreiddiol o Dal-y-bont ger Aberystwyth ond sydd bellach 芒 stiwdio ym Mae Caerdydd.
"Dwi'n meddwl bod arddangos yn rhithiol wedi agor drysau newydd i ni grefftwyr ac artistiaid ac mae'n rhywbeth y dylai'r Eisteddfod a galer茂au barhau ag e yn y dyfodol - hynny ar y cyd 芒 chynnal arddangosfa go iawn.
"Gwehydd ydw i ac rwy'n cynhyrchu carthenni mawr - ac mae eu harddangos yn rhithiol yn gweithio'n dda gan bod modd gweld y blaen a'r cefn.
"Os yw pobl yn hoff ohonynt mae modd iddynt ddod i'w gweld i gael golwg fanylach."
Ychwanegodd Ms James: "Mae cael fy newis i arddangos fy ngwaith eleni yn hwb wedi cyfnod digon anodd.
"Dwi'n gwybod bod lot o artistiaid wedi gweld y cyfnod fel cyfle i greu ond er bo fi wedi bod yn eitha' hapus yn y cyfnod roedd gorfodi fy hun i fod yn greadigol ddim yn ennyn creadigrwydd.
"Wrth i'r misoedd fynd yn eu blaen - fe ddes i'n fwy creadigol.
"Dwi'n gwehyddu 芒 llaw ond hefyd yn cynllunio carthenni sy'n cael eu cynhyrchu ar raddfa ehangach mewn melinau gwl芒n - mae'r ffaith bod y melinau wedi gorfod cau am gyfnod hefyd wedi bod yn rhwystredig.
"Ond dwi'n gweld bod y pandemig wedi creu dyfodol newydd o ran arddangos - ac mae hynny yn beth da," meddai.
Yr artistiaid eraill sydd wedi'u dewis eleni yw Manon Awst, Si芒n Barlow, Ann Catrin Evans, Gwen Evans, Kate Fiszman, Rhiannon Gwyn, Kate Haywood, Karolina Jones, Rhys Bevan Jones, Roger Lougher, Karen McRobbie, John Gareth Miles ac Andr茅 Stitt.
Bu tri pherson - a oedd yn cynrychioli ystod eang o ddisgyblaethau - yn dewis, sef Gwenno Angharad, Aled Wyn Davies a Carwyn Evans ynghyd 芒 chwmni Cynyrchiadau 4Pi.
Mae'r arddangosfa rithiol yn cael ei lansio ddydd Llun a bydd modd i'r gynulleidfa roi sylwadau ar yr arddangosfa a dewis ei hoff gynnyrch.