Beth sy'n digwydd yn Eisteddfod 2021?

Fe fydd yn rhaid i dref Tregaron aros am flwyddyn arall, ond mae'r Eisteddfod AmGen yn ei h么l a bydd modd dilyn y cyfan ar S4C, Radio Cymru a gwefan yr Eisteddfod.

Gydag ychydig ddyddiau i fynd, dyma ddatgelu mwy am beth sydd i'w ddisgwyl.

Mae'r cystadlu yn 么l

Doedd dim llawer o gystadlu yn rhan o 糯yl AmGen 2020 ond mae pethau'n wahanol eleni. Pob dydd fe fydd yna nifer o gystadlaethau cyfarwydd i'w mwynhau, gyda nifer o'r rhain wedi eu ffilmio ymlaen llaw. Fe ddaeth rhai cystadleuwyr i berfformio yng Nghanolfan Pontio, Bangor ac yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, tra bod rhai wedi cystadlu o adref.

Fe fydd rhaglenni arbennig ar S4C a Radio Cymru o 14:00 ymlaen yn rhoi sylw i'r holl gystadlu.

Ar Cymru Fyw fe fydd modd dilyn yr holl ganlyniadau wrth iddynt gael eu cyhoeddi, a gwylio blas o'r perfformiadau buddugol.

厂别谤别尘辞苍茂补耻

Rhwng nos Lun a nos Wener am 20:00 fe fyddwn yn darganfod pwy yw enillwyr y Fedal Ddrama, Gwobr Goffa Daniel Owen, y Goron, y Fedal Ryddiaith a'r Gadair. Tony Thomas sy'n gyfrifol am ddylunio'r Gadair a'r Goron.

Eto eleni mae cystadlaeth Llyfr y Flwyddyn yn rhan o arlwy'r wythnos. Bydd enillwyr y categor茂au amrywiol yn cael eu datgelu ar nos Lun, Mawrth a Mercher yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Bydd enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau ac Albym y Flwyddyn yn cael eu datgelu ar nos Iau a Gwener yr Eisteddfod ar Radio Cymru.

Disgrifiad o'r llun, Dilynwch y prif seremon茂au nos Lun-Gwner am 20:00 ar S4C a Radio Cymru

Llwyfannau cyfarwydd yn troi'n rhithiol

Er nad oes yna faes arferol, mae nifer o lwyfannau cyfarwydd yn rhan o'r Eisteddfod eleni.

Mae amserlenni'r T欧 Gwerin, y Babell L锚n, Maes B a mwy i'w . Mae'r sesiynau yma wedi eu recordio ar draws Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf, a bydd rhagflas o'r sesiynau ar deledu a radio drwy gydol yr wythnos.

Ar Radio Cymru, fe fydd Ffeinal y Talwrn - sy'n un o uchafbwyntiau y Babell L锚n fel arfer - i'w chlywed nos Sul yma am 19:00.

Disgrifiad o'r llun, Bydd Candelas yn rhan o gig arbennig i ddathlu pen-blwydd label IKACHING yn 10 oed

Y gerddoriaeth orau

Y penwythnos yma fe fydd yr Eisteddfod Gudd yn llawn o setiau byw ar wefan yr Eisteddfod a YouTube o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Cadwch lygad ar gyfrifon cymdeithasol Maes B rhwng nawr a hynny er mwyn darganfod pwy fydd yn perfformio a phryd. Fe fydd uchafbwyntiau y sesiynau yma hefyd i'w clywed ar Radio Cymru mewn raglenni amrywiol ar draws yr wythnos.

Mae hyd yn oed gig o'r 'Pafiliwn' eleni, wrth i Maes B ddathlu pen-blwydd label IKACHING yn 10 oed. Fe fydd Candelas, Glain Rhys a'r Band, S诺nami a mwy yn perfformio o Ganolfan Pontio, Bangor gyda'r Welsh Pops Orchestra ar nos Iau, 5 Awst am 21:00.

Ffynhonnell y llun, S4c

Disgrifiad o'r llun, Glain Rhys, un o'r perfformwyr yn gig y 'Pafiliwn' eleni

Ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod fe fydd Maes B yn cyflwyno gig arbennig Merched yn Gwneud Miwsig ar S4C, gyda perfformiadau gan E盲dyth Crawford, Adwaith, Thallo a mwy.

Trin a thrafod

Mae wythnos yr Eisteddfod fel arfer yn llawn trafodaethau amrywiol a difyr. Eleni fe fydd y rhain yn digwydd ar wefan a chyfryngau cymdeithasol yr Eisteddfod a bydd blas i'w glywed ar amrywiaeth o raglenni Radio Cymru ac S4C.

I weld amserlenni Mas ar y Maes, Pentref Dysgu Cymraeg, Pabell y Cymdeithasau a mwy ewch draw i .

Hefyd o ddiddordeb: