Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwyliau'r haf yn dechrau gyda thywydd tanbaid yng Nghymru
Roedd hawl gan fwy o bobl gwrdd dan do mewn cartrefi preifat o ddydd Sadwrn, ond allan yn yr awyr agored fu nifer wrth i Gymru fwynhau penwythnos poetha'r flwyddyn hyd yn hyn.
Roedd y Swyddfa Dywydd yn rhagweld mai Cymru fyddai un o'r llefydd poethaf yn y DU dros y penwythnos, gyda disgwyl iddi gyrraedd 33C yn y de ddydd Sul.
Dydd Sadwrn oedd diwrnod poetha'r flwyddyn hyd yn hyn, gyda'r tymheredd yn cyrraedd 29C ym Mrynbuga, Sir Fynwy.
Mae'n bosib mai dyma fydd penwythnos prysuraf y flwyddyn, gyda thywydd tanbaid, cyfyngiadau'n llacio ac ysgolion wedi cau am yr haf yr wythnos hon.
Ymysg y rheolau eraill i newid ddydd Sadwrn ydy nad oes unrhyw gyfyngiad ar faint o bobl sy'n gallu cwrdd yn yr awyr agored mewn mannau cyhoeddus bellach, ac mae cadw pellter cymdeithasol wedi'i ddileu hefyd.
Ar lannau Llyn Tegid yn Y Bala dywedodd trigolion eu bod "erioed wedi ei gweld hi mor brysur", gydag ymwelwyr wedi bod yn cyrraedd ers "y peth cyntaf y bore 'ma".
Dydd Gwener oedd diwrnod poetha'r flwyddyn yng Nghymru, ac mae disgwyl i'r tymheredd godi ddydd Sadwrn ac unwaith eto ddydd Sul.
Ond gyda thywydd braf daw cyfnod prysur i wylwyr y glannau hefyd, ac roedd y gwasanaethau brys eisoes wedi rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus gyda gwyliau'r haf yn dechrau.
Amser cinio ddydd Sadwrn bu'n rhaid i wylwyr y glannau achub tri o bobl oedd wedi mynd i drafferthion yn padlfyrddio ychydig i'r gorllewin o Ynys Lawd ym M么n.
Mae'r gwasanaethau brys wedi rhybuddio pobl i gadw draw o waelod clogwyni hefyd, wedi i ddyn gael anafiadau i'w ben yn Y Barri ar 么l i garreg ei daro.