Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw ar Loegr i ddilyn rheolau mygydau Cymru a'r Alban
Dylai Llywodraeth y DU ddilyn yr un drefn 芒 Chymru a'r Alban o ran mygydau, meddai Prif Weinidog Cymru, gan ddweud y byddai cael un system yn ei gwneud yn symlach.
Mae disgwyl i Gymru symud i gyfyngiadau lefel sero ar 7 Awst, tra bo' hynny'n digwydd ar 19 Gorffennaf yn Lloegr a'r Alban.
Ond hyd yn oed ar y lefel hynny, yng Nghymru a'r Alban bydd mygydau'n parhau yn orfodol yn y mwyafrif o sefyllfaoedd dan do.
Yn Lloegr ni fydd gorfodaeth i wisgo mwgwd mewn unrhyw sefyllfa, er bod Llywodraeth y DU yn "disgwyl ac awgrymu" i bobl orchuddio eu hwynebau pan mewn torf neu fannau caeedig.
Er hynny, mae maer Llundain Sadiq Khan wedi dweud y bydd mygydau'n orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Llundain ar 19 Gorffennaf.
Yng Nghymru bydd mygydau yn parhau'n orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus a'r mwyafrif o sefyllfaoedd dan do - ond nid mewn bwytai, tafarndai ac ysgolion.
Bydd asesiadau risg yn y gweithle yn parhau i fod yn orfodol yn gyfreithiol i gyflogwyr, ond mae undeb yn dweud bod hynny'n peryglu gweithwyr.
Ar raglen Good Morning Britain fore Iau dywedodd Mark Drakeford y byddai'n "symlach ac yn fwy eglur i bawb" pe bai Llywodraeth y DU yn dilyn yr un drefn 芒 Chymru a'r Alban er mwyn cael cysondeb.
"Rwy'n credu y bydd hi'n anodd i bobl yn Lloegr i wybod yn union beth yw'r gofynion," meddai.
"Mae Llywodraeth y DU wedi dweud wrthym ni yn aml y dylen ni weithio i gael safbwynt tebyg yn y pedair gwlad wrth fynd i'r afael 芒 coronafeirws, a dydw i ddim yn anghytuno 芒 hynny.
"Ond ar y mater yma - gwisgo mygydau - Llywodraeth y DU sydd 芒 threfn wahanol ar y funud, a pe bydden nhw yn barod i gael yr un rheolau 芒'r hyn fydd yn Yr Alban a Chymru fe fyddai hynny'n symlach ac yn fwy eglur i bawb."
'Nid cyngor ydy e, dyna'r gyfraith'
Yn gynharach, dywedodd Mr Drakeford wrth 91热爆 Breakfast y bydd cwmn茂au rheilffordd a bysiau yn sicrhau bod pobl yn gwisgo mygydau os yn teithio o Loegr i Gymru.
"Bydd y bobl sy'n rhedeg y system drafnidiaeth yn sicrhau bod pobl yn ymwybodol bod rheolau gwahanol ar waith pan yn teithio yng Nghymru," meddai.
"Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn dilyn y cyngor clir gan y prif weinidog yn Lloegr y dylen nhw barhau i wisgo mwgwd ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond yma yng Nghymru bydd y rheol yn glir - nid cyngor ydy e, dyna'r gyfraith."
Ychwanegodd y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i "symud yn ofalus, gam wrth gam gan feddwl am rheiny sy'n fregus".
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan fore Iau y bydd pobl fregus yn derbyn llythyr gan y llywodraeth wrth i gyfyngiadau lacio yng Nghymru yn eu cynghori i aros yn wyliadwrus.
"Mi fydd llythyr yn mynd mas i'r bobl fwyaf bregus - wrth gwrs, mi fydd yn rhaid i bobl fod yn ofalus," meddai ar Dros Frecwast.
Ond ychwanegodd nad oedd y cyngor hynny yn golygu bod angen aros adref.
"Dwi'n meddwl bod angen i bobl fregus i fod yn ofalus, ond wrth gwrs, mae'n rhaid i ni ddod at bwynt pryd ry'n ni'n ailagor ein cymunedau ni.
"Dyma yw'r pwynt pryd mae hynny'n digwydd," meddai.