Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Brechu 'wedi gwanhau'r feirws ond heb gael ei wared'
Mae un o brif swyddogion y rhaglen frechu yng Nghymru wedi dweud nad yw'r brechlyn Covid-19 wedi "torri'r cysylltiad" yn llwyr rhwng pobl yn profi'n bositif a mynd i'r ysbyty.
Wrth siarad yng nghynhadledd y llywodraeth, dywedodd Dr Gill Richardson: "Gallwn ddweud yn hyderus bod brechlynnau wedi gwanhau'r cysylltiad rhwng heintiau, salwch difrifol ac ysbytai a marwolaethau.
"Ond dydyn nhw ddim wedi torri'r cyswllt," meddai dirprwy brif swyddog meddygol brechlynnau Cymru.
Daw'r sylwadau wrth i un arbenigwr blaenllaw ar glefydau heintus ddweud ei bod hi'n amser bellach i ddod 芒 chyfyngiadau Covid yng Nghymru i ben.
'Achosi niwed o hyd'
Dywedodd yr epidemiolegydd ymgynghorol Yr Athro John Watkins fod y cyswllt rhwng achosion Covid, niferoedd yn yr ysbyty a marwolaethau "yn bendant" wedi torri bellach.
Ond ni aeth Dr Richardson mor bell 芒 dweud hynny wrth siarad brynhawn Llun.
Pwysleisiodd ei bod yn bwysig cael lefelau uchel o frechu ym mhob gr诺p oedran - gyda'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 26% o bobl rhwng 18-39 yng Nghymru heb gael eu brechiad cyntaf eto.
Dywedodd fod yn rhaid i bawb "weithio gyda'i gilydd i gadw coronafeirws dan reolaeth oherwydd gall y feirws hwn achosi niwed o hyd, yn enwedig os yw'r cyfraddau'n codi'n serth iawn, fel rydyn ni'n ei ddisgwyl".
Dywedodd Dr Richardson nad oedd derbyniadau i'r ysbyty ar yr un lefelau ag yr oedden nhw'n ystod y gaeaf.
Ychwanegodd: "Gallwn ddisgwyl i dderbyniadau i'r ysbyty godi, yn enwedig ymhlith pobl sydd heb eu brechu neu'r rhai sydd heb gwblhau eu cwrs.
"Ers dechrau mis Mai, mae pobl sydd 芒 Covid-19 mewn ysbytai yng Nghymru wedi bod ar eu lefelau isaf ers i'r pandemig ddechrau.
"Bu cynnydd bach yn ystod y dyddiau diwethaf ond mae'n dal i fod ar lefelau isel."
Yn y cyfamser, mae Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan yn hunan-ynysu "ar 么l dod i gysylltiad ag achos positif posib" o'r feirws.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gallwn gadarnhau bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn hunan-ynysu fel mesur rhagofalus ar 么l dod i gysylltiad ag achos positif posib o coronafeirws."
Cyfradd 'R' uchel
Dywed prif swyddog meddygol Cymru fod cyfradd achosion coronafeirws yn cynyddu ledled y wlad wrth i'r amrywiad Delta "symud yn gyflym trwy ein cymunedau lleol".
Dywedodd Dr Frank Atherton fod achosion yn dyblu bob tua chwe diwrnod a hanner.
"Yr amcangyfrif gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yw bod cyfradd 'R' Cymru rhwng 1.8 ac 1.9," meddai.
"Mae hyn yn golygu bod pob person sydd wedi'i heintio yn mynd ymlaen i heintio bron i ddau berson arall."
Ond ychwanegodd fod llawer llai o heintiau yn y grwpiau oedran h欧n yn y drydedd don yma o'r pandemig.
"Mae'n debyg mai rhan fawr o'r rheswm am hyn yw bod brechu yn helpu i atal trosglwyddo a heintio," meddai.