Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Penderfyniad ar gyllideb S4C i ddod 'cyn diwedd y mis'
Bydd penderfyniad "yn fuan iawn" yngl欧n 芒 chyllideb S4C ar gyfer y dyfodol, meddai Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart.
Mae'r sianel yn aros i glywed gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon o fewn Llywodraeth y DU am eu setliad ariannu am y bum mlynedd nesaf.
O fis Ebrill 2022, bydd arian cyhoeddus S4C i gyd yn dod o ffi drwydded y 91热爆.
Yn 么l Simon Hart, mae o wedi bod yn dadlau achos S4C gyda'r Ysgrifennydd Diwylliant Oliver Dowden.
"'Da ni'n credu yn y cynnig, 'da ni'n credu yn y sianel, 'da ni'n credu ei fod yn chwarae r么l hollol allweddol wrth gwrdd 芒'r uchelgais ar gyfer yr iaith Gymraeg.
"Mae ASau o bob plaid wedi gwneud yr achos bod hwn yn gyfrannwr pwysig, eiconig ac arwyddocaol i ddiwylliant Cymru ac i'r iaith yn benodol, ac wedi ceisio perswadio DCMS i edrych ar hwn fel cyfle yn hytrach na chost."
Dywedodd Mr Hart y byddai penderfyniad yn cael ei wneud cyn diwedd Gorffennaf.
Yn 2020-21, fe dderbyniodd y sianel 拢74.5m o ffi drwydded y 91热爆 a 拢21.85m gan Lywodraeth y DU.