Wythnos heb farwolaeth Covid-19 am y tro cyntaf

Disgrifiad o'r llun, Un farwolaeth gafodd ei chofnodi yn yr 16 diwrnod hyd at 18 Mehefin

Ni chafodd yr un farwolaeth yn ymwneud 芒 Covid-19 ei chofnodi yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 18 Mehefin - y tro cyntaf i hynny ddigwydd ers dechrau'r pandemig.

Yn ystod cyfnod gwaethaf yr ail don ym mis Ionawr cafodd 83 o farwolaethau'n ymwneud 芒 coronafeirws eu cofnodi mewn un diwrnod yn unig.

Fe gymerodd hi nes diwedd Mawrth cyn i Gymru gael diwrnod ble na fu farw unrhyw un gyda Covid-19.

Ond erbyn hyn, un farwolaeth gafodd ei chofnodi yn yr 16 diwrnod hyd at ganol Mehefin.

Yn 么l y Swyddfa Ystadegau, hyd at 18 Mehefin bu farw 7,899 o bobl gyda coronafeirws yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Yn ystod cyfnod gwaethaf yr ail don cafodd 83 o farwolaethau eu cofnodi mewn un diwrnod yn unig

Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos bod cyfanswm y marwolaethau o unrhyw achos yn is na'r cyfartaledd dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Mae'r ffigyrau yma, yn wahanol i rai Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnwys achosion ble mae meddygon yn amau bod Covid wedi cyfrannu at y farwolaeth, hyd yn oed os nad ydy'r person wedi cael prawf.

Mae hynny'n cynnwys marwolaethau sydd wedi digwydd yng nghartrefi pobl, cartrefi gofal a hosbisau.

Dim ond achosion ble mae claf wedi cael prawf positif am Covid-19 sy'n cael eu cyfrif yn ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond mae'r data hynny yn cael ei ddiweddaru yn fwy cyson.

Mae'r ffigyrau hynny wedi cadarnhau tair marwolaeth dros y pythefnos diwethaf hyd at 28 Mehefin.