'Pob oedolyn yng Nghymru wedi cael cynnig brechlyn'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Y targed ar hyn o bryd ydy cynnig ail ddos i holl oedolion Cymru erbyn mis Medi

Mae pob oedolyn yng Nghymru wedi cael cynnig brechlyn coronafeirws yn 么l Llywodraeth Cymru - chwe wythnos yn gynt na'r targed gwreiddiol.

Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod 2,213,050 wedi derbyn eu dos cyntaf, sy'n 70.2% o'r boblogaeth.

Rhaglen frechu Cymru ydy'r cyflymaf yn y byd o ran gwledydd gyda dros filiwn o bobl.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan bod cyrraedd y garreg filltir cyn y targed gwreiddiol - diwedd Gorffennaf - yn "arbennig".

Bydd y ffocws nawr yn troi at sicrhau bod pawb yn derbyn ail ddos cyn gynted 芒 phosib yn sgil pryderon am ledaeniad yr amrywiolyn Delta.

'Dim llaesu dwylo'

"Mae Cymru yn arwain y byd o ran canran y boblogaeth sydd wedi'u brechu," meddai Ms Morgan.

"Ond dydyn ni ddim am laesu dwylo. Yn benodol, hoffwn annog oedolion ifanc i dderbyn y cynnig - dydyn ni ddim am adael neb ar 么l.

"Rydyn ni'n awyddus i weld unigolion 18-39 oed yn cael eu brechu, ac yn gobeithio cyrraedd ein carreg filltir o frechu 75% o'r gr诺p oedran hwn erbyn diwedd y mis hwn.

"Manteisiwch ar y cyfle pan gewch gynnig apwyntiad - mae'n eich diogelu chi, eich anwyliaid a'ch cymunedau, a dyma'r llwybr gorau allan o'r pandemig."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Rhaglen frechu Cymru ydy'r cyflymaf yn y byd o ran gwledydd gyda dros filiwn o bobl

Mae cyfradd achosion Cymru ar gyfer pob 100,000 o bobl dros saith diwrnod wedi codi i 15 - y gyfradd uchaf ers 16 Ebrill.

Dydy hynny ddim yn syndod o ystyried bod cyfyngiadau'n cael eu llacio, ac mae cyfradd Cymru'n parhau yn is na gweddill y DU.

Y targed ar hyn o bryd ydy cynnig ail ddos i holl oedolion Cymru erbyn mis Medi. Ar hyn o bryd mae Cymru ychydig y tu 么l i Loegr a'r Alban o ran y gyfran sydd wedi derbyn y cwrs llawn.

Mae'n bosib y bydd plant yn cael eu brechu yn yr hydref, ynghyd 芒 rhoi dos ychwanegol i grwpiau h欧n.