Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Mwy nag erioed yn gwneud cais i astudio nyrsio a meddygaeth
Mae mwy o geisiadau nag erioed wedi cael eu gwneud i astudio nyrsio a meddygaeth yng Nghymru eleni.
Mae ymchwil gan raglen Wales Live yn dangos bod nifer y ceisiadau i astudio nyrsio plant ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cynyddu 49% o'i gymharu 芒'r llynedd.
Bu'n rhaid i Brifysgol Glynd诺r Wrecsam gau ceisiadau ar gyfer cyrsiau nyrsio yn gynnar oherwydd y galw.
Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn dweud bod 15% o gynnydd wedi bod yn nifer y ceisiadau i astudio meddygaeth.
Mae Lucy Phillips, 18 oed o Sir Benfro, wedi cael cynnig amodol i astudio nyrsio plant yng Nghaerdydd wedi iddi weithio mewn ysbyty maes yn ystod y pandemig.
Dywedodd bod ei chyfnod yn glanhau yno fis Rhagfyr wedi ei gwneud i "gwympo mewn cariad" gyda'r teimlad o ofalu am gleifion, a bod hynny wedi ei hysgogi i wneud cais.
"Rydych chi'n gallu helpu pobl pan maen nhw fwyaf bregus - pan maen nhw ar eu gwaethaf maen nhw'n troi at bobl fel nyrsys a gweithwyr iechyd ar gyfer ychydig o hapusrwydd," meddai.
Mae nifer y ceisiadau i astudio 么l-radd mewn meddygaeth a nyrsio plant ym Mhrifysgol Abertawe hefyd wedi cynyddu 28%.
Dywedodd pennaeth yr ysgol feddygol, Dr Keith Lloyd: "Mae gennym ni 92 o lefydd ar ein cwrs gradd meddygaeth. Rydyn ni'n cael 1,000 o geisiadau, yn cyfweld 300 ac fe allwn ni fod wedi cymryd 200 o'r rheiny yn hawdd."
Ledled y DU mae nifer y ceisiadau i astudio meddygaeth wedi cynyddu tua 20%, a dywedodd Dr Lloyd ei fod yn rhagweld y bydd hynny'n cynyddu ymhellach y flwyddyn nesaf.
Dywedodd corff Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr y bydd dros 拢227m yn cael ei wario ar ehangu hyfforddiant ar gyfer swyddi iechyd.
"Mae hyn yn golygu y bydd 85 lle ychwanegol yn cael eu creu ar gyfer hyfforddiant meddygol 么l-radd," meddai llefarydd.
Ychwanegodd y bydd "9% o gynnydd gyda nyrsio a bydwreigiaeth", ac y byddai hynny'n "cynrychioli'r lefel uchaf erioed o gomisiynu swyddi iechyd yng Nghymru".