Bwrw 'mlaen 芒 chau Ysgol Abersoch 'ar ddiwedd 2021'

Fe allai rhybudd statudol i gau ysgol gyda 10 disgybl ym Mhen Ll欧n gael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae adroddiad i Gyngor Gwynedd yn argymell cau Ysgol Abersoch erbyn diwedd 2021.

Byddai cyhoeddi'r rhybudd ffurfiol yn rhoi 28 diwrnod i'r cyhoedd nodi unrhyw wrthwynebiad i'r cynllun dadleuol.

Mae dyfodol yr ysgol wedi bod yn ansicr ers cryn amser, ac ar ddechrau'r flwyddyn fe wnaeth y cyngor oedi'r broses yn dilyn honiad nad oedd yn deg cynnal ymgynghoriad ynghanol pandemig.

Byddai'r wyth disgybl llawn amser a dau ddisgybl meithrin yn cael eu trosglwyddo i Ysgol Sarn Bach o fis Ionawr 2022, pe bai penaethiaid addysg yn bwrw 'mlaen hefo'r cynllun.

Bydd yr argymhelliad i lansio'r rhybudd statudol yn cael ei drafod yn ystod cyfarfod cabinet Cyngor Gwynedd yr wythnos nesaf.

Gall yr ysgol ddal 34 o blant ond mae'r rhagamcanion yn dangos y byddai nifer y disgyblion ond yn tyfu i 12 erbyn 2023.

Mae hi'n costio 拢17,000 y flwyddyn i addysgu pob disgybl yn Ysgol Abersoch tra bod y cyfartaledd drwy'r sir yn ychydig dros 拢4,000.

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Byddai'r plant yn mynd i Ysgol Sarn Bach petai Ysgol Abersoch yn cau'n barhaol

Mae'r cyfnod ymgynghori diweddaraf wedi denu 154 o ymatebion, ac mae nifer o fewn cymuned Abersoch yn awyddus i gadw'r ysgol - sydd wedi bod yn y pentref ers bron i 100 mlynedd.

Dywedodd Anna Jones, cyn-brif athrawes a llywodraethwr yn yr ysgol, ei bod yn "siomedig iawn, iawn, siomedig dros ben, da ni ddim wedi cael cyfle mewn ffordd i ddatgan yn union y sefyllfa".

Dywedodd bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y disgyblion yn ystod ei hamser hi yn yr ysgol, ac wrth i bobl symud i mewn i'r ardal ar hyn o bryd, "mae isio rhoi cyfle i ni weld os fydd hyn yn digwydd".

"Mae Cyngor Gwynedd yn elwa o Abersoch, Abersoch ydy'r pentre' mwya' yng Ngwynedd, maen nhw'n cael yr holl broffid 'ma o'r siopau ac yn y blaen, ac yn caniat谩u tai haf, maen nhw'n caniat谩u codi a dymchwel tai, caffis ac yn y blaen.

"Ac eto maen nhw'n lladd... un o'r pethe mwya' Cymreig sy' yn y pentre' sy'n mynd i gadw'r iaith."

'Cyfnod anodd'

Ond dywedodd y Cynghorydd Cemlyn Williams, yr aelod cabinet dros addysg ar Gyngor Gwynedd: "Rwy'n llwyr werthfawrogi bod hwn yn gyfnod anodd ac mae bob amser yn drist pan fydd yn rhaid cynnal ymgynghoriad ar ddyfodol unrhyw ysgol.

"Mae ystyriaeth lawn wedi ei roi i'r holl opsiynau a gafodd eu cyflwyno ac rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu.

"Nid yw cyflwyno'r adroddiad yn benderfyniad hawdd, ond mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau ein bod yn darparu'r addysg a'r profiadau gorau posibl ynghyd 芒'r amgylchedd dysgu gorau posibl i'r plant.

"Ar 么l gwerthuso'r holl opsiynau'n fanwl, ac o ystyried y rhagamcanion y bydd niferoedd disgyblion yr ysgol yn parhau i fod yn isel iawn yn y blynyddoedd i ddod, yr argymhelliad yw y dylai Ysgol Abersoch gau ar ddiwedd 2021."

Fis Tachwedd y llynedd, fe wnaeth y cyngor anfon y penderfyniad yn 么l i'r cabinet gan honni y byddai'r pandemig yn rhwystro ymdrechion i gynnal ymgynghoriad "teg a phriodol".

Ond fe wnaeth aelodau'r cabinet fwrw ymlaen gyda chynlluniau i gau'r ysgol erbyn Medi 2021 ar 么l i benaethiaid addysg ddweud nad oedd cadw'r ysgol ar agor yn gynaliadwy. Nododd y cynghorydd lleol, Dewi Wyn Roberts, yn ei ymateb: "Er fy mod yn credu ei bod yn amhosibl cael ymgynghoriad llawn a theg o dan amgylchiadau Covid, mae'r ymgynghoriad yn glir bod gwrthwynebiad clir i gau'r ysgol ac os aiff hyn ymlaen ymlaen mae hyn yn groes i awydd y gymuned gan gynnwys y plant, rhieni, preswylwyr, staff ysgolion, cyngor cymunedol, aelod lleol ac Aelod Seneddol."

Bydd y cabinet yn trafod yr adroddiad ar 15 Mehefin.