Canolfannau brechu Covid-19 yn 'ddiogel ac effeithlon'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

  • Awdur, Huw Thomas
  • Swydd, Newyddion 91热爆 Cymru

Mae canolfannau brechu yng Nghymru wedi darparu amgylchedd "diogel ac effeithlon" ar gyfer rhoi brechlynnau Covid-19, yn 么l y corff arolygu gofal iechyd.

Ymwelodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ag wyth canolfan frechu torfol i wirio safonau diogelwch.

Canfu "staff ymroddedig, sy'n gweithio'n galed" a dim ond m芒n welliannau a ofynnwyd mewn rhai meysydd.

Arolygwyd dros 500 o bobl a fynychodd apwyntiadau brechu, gyda'r rhan fwyaf yn dweud bod ganddynt brofiad "rhagorol".

Cynhaliodd AGIC gyfres o arolygiadau 芒 phwyslais penodol ar wyth canolfan frechu dorfol ledled Cymru yn ystod mis Mawrth 2021.

'Trefniadau priodol'

Dywedodd ei adroddiad fod yr ymweliadau wedi'u cynllunio i asesu'r gwahanol drefniadau sydd ar waith, ac i "wirio sut mae'r risgiau i iechyd, diogelwch a lles pobl yn cael eu rheoli".

"Mae natur dros dro'r safleoedd, a'r nifer uchel o bobl sy'n cael eu trin, yn codi risgiau posibl mewn nifer o feysydd."

Er gwaethaf y risgiau posibl, dywedodd AGIC ei bod yn canfod bod "trefniadau priodol" wedi'u rhoi ar waith gan y gwahanol fyrddau iechyd, er gwaethaf y cyflymder a'r "amgylcheddau unigryw" a oedd yn cael eu defnyddio ar gyfer canolfannau brechu torfol.

Roedd y rhain yn cynnwys canolfan frechu a sefydlwyd yn y ganolfan fowlio dan do yn Aberpennar, ac ysbytai dros dro Ysbyty Enfys ym Mangor ac ar Lannau Dyfrdwy.

Roedd y gwelliannau a argymhellwyd yn cynnwys gwell cydymffurfiaeth 芒 gweithdrefnau diogelwch t芒n a gwac谩u, a gwirio offer dadebru yn fwy rheolaidd.

Roedd byrddau iechyd yn "brydlon ac effeithiol" wrth ddatrys y materion hyn, ychwanegodd yr adroddiad.

Dywedodd Alun Jones, prif weithredwr dros dro AGIC, wrth 91热爆 Cymru: "Roedd yn gadarnhaol iawn gallu adrodd ein bod yn teimlo, yn 么l cydbwysedd y dystiolaeth yr ydym wedi'i gweld a'r ymweliadau yr ydym wedi'u gwneud, fod cleifion yn derbyn gofal diogel ac effeithlon yn ystod eu hymweliadau 芒 chanolfannau brechu torfol.

"Hefyd, roedd gan y byrddau iechyd eu hunain drefniadau effeithiol iawn ar waith, yn gyffredinol, i oruchwylio'r canolfannau brechu torfol hynny er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel ac yn effeithlon."

Defnyddir canfyddiadau'r adroddiad i lywio'r defnydd pellach o ganolfannau brechu torfol wrth i'r broses bresennol o gyflwyno'r brechlyn barhau, ac ar gyfer rhaglenni brechu Covid pellach."