Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Barbeciws a thorheulo ger tirlithriad Nefyn yn 'wirion bost'
- Awdur, Nia Cerys
- Swydd, Newyddion 91热爆 Cymru
Mae'n fis ers i dirlithriad enfawr achosi anrhefn yn Nefyn, Pen Ll欧n - ac mae'r pryderon am ddiogelwch yn parhau yno.
Mae cannoedd wedi heidio yno ers y digwyddiad i weld y difrod ac yn mentro'n agos iawn at y safle - rhai hyd yn oed wedi'u gweld yn torheulo neu gael barbeciws yno.
Mae'r sefyllfa wedi codi ofn ar y trigolion lleol, ac mae galw am wneud mwy i rybuddio pobl am y peryglon.
Un o'r trigolion lleol sy'n poeni ydy Joan Coppin.
"Dwi 'di gweld rhai yn cael barbeciw ar y creigiau ddyddiau 'n么l, pobl yn cerdded dros y peth," meddai.
"Dwi'n meddwl bod pobl yn wirion bost i wneud pethau felly.
"Mae o'n fwd, mae o'n glai, mae o'n dywod - pwy sy'n d'eud bod o ddim yn mynd i suddo? Pwy sy'n d'eud nad oes 'na fwy yn mynd i ddod?
"Mae 'na 19 o ddarnau o dir wedi disgyn ar hyd yr arfordir yma a ma' pobl yn dal i wneud petha' gwirion."
Mae Mali Parry Jones yn byw ym Morfa Nefyn ac yn gwirfoddoli hefo'r RNLI ym Mhorthdinllaen.
"Mae o'n reit frawychus a bod yn onest, y bobl sy' wedi gosod eu tywelion ar lawr a phenderfynu treulio 'chydig oriau yno'n torheulo neu gael picnic," meddai.
"Mae o'n codi ofn braidd bod nhw mor agos i'r tirlithriad a heb lot o synnwyr cyffredin o feddwl y gall o ddigwydd eto.
"Yn amlwg mae wedi bod yn fis gymharol dawel - dydy'r tywydd ddim wedi bod yn wych dros y mis diwetha' sy' 'falla wedi helpu i gadw pobl draw.
"Ond 'da ni ar drothwy gwyliau Sulgwyn a'r gwyliau ha', fydd 'na gannoedd os nad miloedd yn heidio i'r traeth yma yn Nefyn fel gweddill Pen Ll欧n.
"Felly ma' angen bod yn ofalus achos does 'na ddim rhybudd o fath yn y byd pan mae'r tirlithriadau 'ma yn digwydd. Mi alla' nhw ddigwydd unrhyw adeg o'r dydd a'r nos."
'Rhoi eu bywydau mewn peryg'
Yn 么l yr Ymgynghorydd Peirianneg Sifil Dewi Jones, y llanw ydy'r peryg mwya'.
"Tywod ydy mwyafrif yr ochr sy' 'ma - all rhywbeth ddigwydd ar 么l i lanw fod yn ei waelod o," meddai. "Hwnnw ydy sylfaen yr ochr i gyd.
"Mae'r arwyddion yno i bawb weld ac mae o'n lle sy'n ansefydlog. Yn sicr maen nhw'n rhoi eu bywyd mewn peryg os ydyn nhw'n mynd yno."
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Gwynedd: "Yn dilyn y tirlithriad ar draeth Nefyn y mis diwethaf, mae'r Cyngor wedi gosod nifer sylweddol o arwyddion yn rhybuddio'r cyhoedd am y perygl ac yn cynghori'r cyhoedd i gadw draw oddi wrth y clogwyni a'r domen glai a tywod y tirlithriad.
"Mae'r blaendraeth islaw Marc D诺r Uchel Cymedrig yn berchen y Goron ac Asiant Y Goron sydd 芒 chyfrifoldeb am y blaendraeth.
"Er hyn, mae Cyngor Gwynedd wedi gosod yr arwyddion er tynnu sylw at y perygl ac yn ddiweddar, yn sgil sylw gan gynghorydd lleol, wedi codi mwy o arwyddion yn agosach at y domen.
"Mae yna gyfrifoldeb ar y cyhoedd i dalu sylw at y cyfarwyddyd sydd ar yr arwyddion ac yn cadw draw o'r clogwyni."
Fe gysylltodd 91热爆 Cymru gydag Yst芒d y Goron ac maen nhw'n dadlau nad ydy'u perchnogaeth nhw'n ymestyn i'r traeth cyfan, dim ond y rhan rhwng llanw isel ac uchel.
Yn 么l Catrin Roberts o Gyngor Tref Nefyn, mae'r dryswch yngl欧n 芒 phwy sy'n gyfrifol yn y pen draw am y traeth yn achosi rhagor o bryder.
"Mae 'na ddryswch yngl欧n 芒'r tir - mae o fel rhyw fath o dir neb pan mae'n dod i drio cael trefn ar y sefyllfa," meddai.
"Y Goron sy'n berchen ar y traeth - 'da ni wedi bod mewn cysylltiad efo nhw i drio cael trafodaethau ond hyd yn hyn 'does 'na ddim ymateb wedi dod.
"Fasa ni'n licio tasa rhywun yn cymryd rhyw fath o gyfrifoldeb - nid jyst gosod arwyddion i fyny, ond rhyw fath o arweiniad o ran be' ddylia ddigwydd.
"Mi gafodd 'na asesiad ei wneud yn 2001, yn dilyn tirlithriad angheuol. A ydy'n amser r诺an, 20 mlynedd yn ddiweddarach, i gynnal asesiad arall o'r sefyllfa i weld be' ydy natur y clogwyni erbyn hyn?
"Mae'n dirwedd cleiog, mae'n dirwedd meddal - mae o'n mynd i fod yn dal i lithro drwy'r amser. Ond fasa ni'n licio tasa rhywun yn cymryd mwy o berchnogaeth o'r sefyllfa."