Elin Jones i sefyll eto i fod yn Llywydd y Senedd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Elin Jones ei hethol fel Llywydd yn 2016

Bydd Elin Jones o Blaid Cymru yn ceisio cael ei hailethol fel Llywydd y Senedd ddydd Mercher.

Etholwyd AS Ceredigion i'r r么l y tymor diwethaf, gan guro'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas mewn pleidlais ar 么l etholiad 2016.

Mae sawl AS Llafur yn gobeithio sefyll am r么l y dirprwy lywydd, sydd hefyd o ddiddordeb i Russell George, aelod y Ceidwadwyr yn Sir Drefaldwyn.

Mae'r gr诺p Tor茂aidd hefyd yn ystyried cynnig aelod fel ymgeisydd i r么l y Llywydd.

Bydd y pleidleisiau yn cael eu cynnal ddydd Mercher yng nghyfarfod cyntaf y Senedd ers yr etholiad ar 6 Mai.

Disgwyl ailethol Drakeford

Gydag union 30 o'r 60 sedd, mae disgwyl i aelodau Llafur hefyd ailethol yr arweinydd Mark Drakeford yn brif weinidog.

Mae'r Ceidwadwyr, a ddaeth yn ail yn yr etholiad trwy ennill 16 sedd, wedi dweud na fyddan nhw'n enwebu eu harweinydd Andrew RT Davies i fod yn brif weinidog.

Mae'r Llywydd yn gweithredu fel pennaeth y Senedd, gan gadeirio cyfarfodydd yn y siambr.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn cyflog o 拢110,987, gan ennill mwy na gweinidogion llywodraeth Cymru (拢105,701) ond llai na'r prif weinidog (拢147,983).

Bydd y dirprwy lywydd yn derbyn 拢89,846.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae disgwyl i Mark Drakeford barhau fel Prif Weinidog Cymru'n swyddogol ddydd Mercher

Mae'r AS Llafur dros Gaerffili, Hefin David, ac AS y blaid ym Mlaenau Gwent, Alun Davies, wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu sefyll am swydd y dirprwy swyddog llywyddu.

Dywedodd Mr David: "Rwyf am sefyll dros bwysigrwydd craffu a sicrhau bod y Senedd mor gryf ag y gall fod.

"Rwyf am sicrhau ein bod yn dod o hyd i gonsensws lle y gallwn ond hefyd hwyluso atebolrwydd trwyadl bob amser."

Dywedodd cyn-weinidog y llywodraeth, Alun Davies: "Rwy'n credu bod heriau go iawn yn wynebu'r Senedd.

"Mae'n un peth yn galw'ch hun yn Senedd. Mae'n beth arall dod yn un.

"Mae hwn yn amser ar gyfer newid go iawn, o ran sut rydyn ni'n trefnu ac yn rheoli busnes a sut rydyn ni'n rhyngweithio 芒'r wlad gyfan.

"Byddaf am arwain proses o newid a rhaglen o ddiwygio gwleidyddol gyda'r nod o sicrhau nifer a bleidleisiodd o 50% o leiaf yn yr etholiad nesaf," ychwanegodd.

Mae'n debyg hefyd bod David Rees, AS Llafur ar gyfer Aberafan, yn ystyried sefyll am y r么l, tra bod AS Dwyrain Casnewydd John Griffiths ac AS Joyce Watson o Ganolbarth a Gorllewin Cymru hefyd wedi cael eu crybwyll fel darpar ymgeiswyr.