Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Covid-19: Dim marwolaethau newydd wedi eu cofnodi
Does dim marwolaethau yn gysylltiedig 芒 Covid-19 wedi eu cofnodi yn ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Fe gafodd 54 o achosion newydd o'r feirws eu cadarnhau yng Nghymru yn yr ystadegau newydd.
Mae cyfanswm y marwolaethau ers dechrau'r pandemig yn 5,558, a chyfanswm yr achosion positif yn 212,095, yn 么l y dull yma o gofnodi.
Erbyn hyn mae 1,990,783 o bobl yng Nghymru wedi derbyn dos cyntaf o'r brechlyn.
Mae 891,569 o bobl wedi derbyn y cwrs llawn o ddau ddos.
O edrych ar nifer yr achosion dros gyfnod o saith diwrnod fesul 100,000 o'r boblogaeth, Casnewydd (28.4) sy'n parhau 芒'r raddfa uchaf.
Mae'r gyfradd achosion isaf ym Mlaenau Gwent ac Ynys M么n - 2.9 i bob 100,000.
Mae'r gyfradd ar draws Cymru gyfan yn 9.