Ymgeiswyr Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent 2021

Bydd etholiadau ar gyfer y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn cael eu cynnal yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys Gwent, ar 6 Mai 2021.

Mae'r comisiynwyr yn cael eu hethol er mwyn sicrhau bod lluoedd yr heddlu yn gweithredu'n effeithiol.

Fe wnaethon nhw ddisodli awdurdodau'r heddlu yn 2012 wedi galwadau bod angen i'r broses o oruchwylio plismona fod yn fwy democrataidd.

Mae'r etholiadau fod i gael eu cynnal bob pedair blynedd ond bu'n rhaid eu gohirio yn 2020 oherwydd y pandemig.

Dyma restr yr ymgeiswyr ar gyfer Gwent - maent wedi eu nodi yn nhrefn y wyddor o ran cyfenw:

  • Donna Cushing - Plaid Cymru
  • Jeff Cuthbert - Llafur
  • Paul Harley - Annibynnol
  • Hannah Jarvis - Ceidwadwr
  • Clayton Jones - Gwlad
  • John Miller - Democrat Rhyddfrydol