Perygl colli 200 o swyddi ffatri 'oherwydd effaith Brexit'

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae'r safle yn Ystrad Mynach yn cyflogi tua 220 o weithwyr

Mae dros 200 o swyddi mewn perygl o gael eu colli mewn ffatri sy'n gwneud darnau ceir yn Sir Caerffili.

Mae undeb GMB yn dweud bod rheolwyr ffatri Kautex Textron yn Ystrad Mynach yn ystyried "cau'r safle yn llwyr" oherwydd yr effaith mae Brexit yn ei gael ar y diwydiant moduro.

Ychwanegon nhw fod opsiwn arall, sef bod y ffatri yn aros ar agor ond bod y gweithlu yn cael ei lleihau.

Mae Kautex Textron wedi cadarnhau ei fod yn ystyried torri swyddi ac o bosib cau'r ffatri yn llwyr.

"Brexit ac effaith barhaus Covid-19 ydy'r prif resymau dros y penderfyniad," meddai'r cwmni mewn datganiad.

Dywedodd Mike Payne o'r GMB eu bod wedi cael gwybod am gynlluniau'r cwmni ychydig cyn y Pasg.

Ychwanegodd bod cau'r safle yn llwyr yn opsiwn oherwydd y gostyngiad byd-eang yn nifer y ceir sy'n cael eu gwerthu.

'Brexit yn chwarae rhan fawr'

Mae'r ffatri Kautex Textron wedi bod ar y safle yn Ystrad Mynach ers dros 50 mlynedd.

Dywedodd y GMB ei bod yn cynnal trafodaethau gyda'r cwmni a'r gweithlu.

"Mae'n safle sydd wedi bod yn gwneud elw, ond mae Brexit yn chwarae rhan fawr yn hyn," meddai Mr Payne.

"Mae cleientiaid yn dechrau dadlau y dylai'r darnau gael eu creu yn nes at eu pencadlysoedd ar dir mawr Ewrop."

Ychwanegodd yr undeb fod y cwmni yn ystyried y posibilrwydd o greu eitemau gwahanol, fyddai'n arwain at golli 44 o swyddi yn hytrach na'r gweithlu cyfan o tua 220.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn monitro'r sefyllfa ac yn gweithio gyda'r cwmni er mwyn ystyried opsiynau eraill ar gyfer cynnal y safle.