Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Nifer isaf hyd yma yn ysbytai Cymru am driniaeth Covid
Mae nifer y cleifion coronafeirws sydd angen triniaeth ysbyty yng Nghymru wedi gostwng i'w lefel isaf ers dechrau'r pandemig.
Ddydd Sul, roedd cyfartaledd y cleifion oedd wedi eu heintio, neu dan amheuaeth o fod 芒 Covid-19, ac yn cael eu danfon i'r ysbyty yn 18 dros saith diwrnod.
14 oedd nifer y cleifion a gafodd eu derbyn yn ysbytai Cymru ddydd Sul, yn 么l ystadegau GIG Cymru.
Ni chafodd yr un claf coronafeirws eu danfon i ysbytai Bwrdd Iechyd Bae Abertawe am y deuddydd diwethaf, a dim un ychwaith am dridiau yn yr wythnos ddiwethaf yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Erbyn hyn, dim ond 1.8% o'r holl gleifion a gafodd eu derbyn mewn ysbytai oedd yno am eu bod yn s芒l oherwydd Covid neu bod amheuaeth eu bod 芒'r clefyd.
Ar 11 Ebrill, roedd yna 480 o gleifion Covid mewn gwelyau ysbyty. Mae'r cyfartaledd dyddiol, sef 508, bellach ar ei isaf ers 2 Hydref.
Mae'n golygu gostyngiad o 70% mewn mis, a gostyngiad o 94% o'i gymharu 芒'r uchafbwynt tua diwedd Rhagfyr.
16 o bobl oedd yn cael triniaeth mewn gwely 芒 pheiriant anadlu, gan gynnwys gwelyau gofal critigol, wedi cadarnhad neu amheuaeth eu bod 芒'r feirws ar 11 Ebrill, sy'n debyg i ffigwr wythnos yn 么l.
Mae hynny'n 89% yn llai o gleifion Covid nag yng nghanol Ionawr, ac yn barhad o'r sefyllfa ers diwedd Mawrth.
I bob un claf coronafeirws sy'n cael gofal critigol, mae wyth o gleifion yn cael gofal dwys oherwydd cyflyrau eraill.