Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Covid: Marwolaethau'n gostwng am 10fed wythnos yn olynol
Mae nifer y marwolaethau sy'n ymwneud 芒 Covid-19 wedi gostwng am y 10fed wythnos yn olynol, ac mae bellach ar ei lefel isaf ers dechrau Hydref.
Cafodd 32 o farwolaethau coronafeirws eu cofnodi yn yr wythnos hyd at 26 Mawrth, yn 么l y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Roedd hynny'n 4.9% o'r holl farwolaethau yng Nghymru yr wythnos honno, ac 17 o farwolaethau yn llai na'r wythnos flaenorol.
Mae 7,804 o bobl yng Nghymru wedi marw gyda Covid-19 yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.
Yn yr wythnos hyd at 26 Mawrth roedd 12 o farwolaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, a chwech yng Nghaerdydd a'r Fro.
Ni chafodd yr un farwolaeth ei chofnodi mewn chwe sir - Abertawe, Blaenau Gwent, Ceredigion, Merthyr Tudful, Torfaen a Sir Ddinbych.
Bu farw chwe pherson mewn cartrefi gofal gyda'r feirws - y cyfanswm wythnosol isaf ers canol Hydref.
Marwolaethau'n parhau ar lefel arferol
Mae nifer y 'marwolaethau ychwanegol', sy'n cymharu pob marwolaeth gofrestredig gyda blynyddoedd blaenorol, bellach yn is na'r cyfartaledd pum-mlynedd am y bedwaredd wythnos yn olynol.
Mae edrych ar nifer y marwolaethau y byddwn yn disgwyl eu gweld ar unrhyw adeg o'r flwyddyn yn cael ei weld fel ffordd ddibynadwy o fesur effaith y pandemig.
Cafodd 651 o farwolaethau eu cofnodi yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 26 Mawrth, sydd 26 marwolaeth yn is na'r cyfartaledd dros y bum mlynedd ddiwethaf.
Ers dechrau'r pandemig dengys y ffigyrau bod 40,726 o bobl wedi marw yng Nghymru o unrhyw achos, tra bod Covid-19 yn cael ei grybwyll ar y dystysgrif marwolaeth yn 7,796 o'r achosion hynny.
Mae hyn 5,991 marwolaeth yn uwch na'r cyfartaledd pum-mlynedd.
Pan ystyrir y marwolaethau a ddigwyddodd hyd at 26 Mawrth ond na chafodd eu cofrestru tan ar 么l hynny, mae cyfanswm y rhai a fu farw o achos Covid yn codi i 7,804.