Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhyddhau afancod dan drwydded am y tro cyntaf yng Nghymru
- Awdur, Mari Grug
- Swydd, Newyddion 91热爆 Cymru
Mae'r ddau afanc trwyddedig cyntaf wedi cyrraedd Cymru.
Daeth y p芒r i lawr o'r Alban dydd Gwener, ac maent bellach yn eu cartref newydd ar Gors Dyfi ger Machynlleth.
Mae pysgotwyr a ffermwyr lleol yn gwrthwynebu'r cam, gyda nifer yn poeni am effaith yr afancod ar y dirwedd.
Cyfoeth Naturiol Cymru sydd wedi caniat谩u trwydded i hyd at chwech o afancod gael eu rhyddhau i gorlan gaeedig ar Gors Dyfi.
'Sefydlogi'r ecosystem'
Fe ddiflannodd y mamaliaid o Brydain yn yr 16eg Ganrif ar 么l cael eu hela am eu cig a'u ffwr.
Y gobaith ydy y bydd yr afancod yn helpu symud coed helyg, gydag amgylcheddwyr yn rhestru llu o fanteision eraill mewn sefydlogi'r ecosystem.
Yn 么l Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, maen amhosib sicrhau bod anifeiliaid gwyllt yn aros mewn corlan gaeedig.
Mae prosiect arall yn gobeithio sicrhau trwydded i ryddhau 10 p芒r arall o afancod yn rhydd i Afon Dyfi.
Mae'r naturiaethwr Iolo Williams yn croesawu'r afancod i Warchodfa Natur Cors Dyfi gan ddweud: "Mae heddiw'n ddiwrnod mawr iawn achos, o'r diwedd, mae'r afanc yn 么l gyda ni yng nghanolbarth Cymru.
"Am y tro cyntaf ers pedair canrif o leiaf mae 'na gysylltiad gyda'r gorffennol yn 么l.
"Rhaid i ni beidio anghofio bod yr anifeiliaid yma yn gallu creu cynefinoedd gwych ar gyfer bywyd gwyllt.
"Maen nhw'n saff, mewn pen saith erw gyda digon o le a digon o fwyd, a dwi fel un yn falch iawn o weld yr afanc yn 么l."
'Risg o ddianc yn isel iawn'
Mae Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn wedi enwi'r afanc mwyaf yn Barti Ddu, am ei fod yn Black Morph, sef math prin o afanc.
Y bwriad yw dod 芒 gweddill y teulu i lawr o'r Alban yn yr wythnosau nesaf.
Yn 么l Kim Williams, fydd yn gwarchod yr afancod o ddydd i ddydd ar y safle: "Byddwn ni'n defnyddio camera traps a CCTV ar y cae i gadw llygad ar yr afancod.
"Byddwn ni'n dod yma bob dydd i gerdded y ffens ac i wylio sut maen nhw'n ymddwyn yn eu cartref newydd.
"Rydym ni wedi gwneud popeth rydym ni'n gallu i sicrhau bod yr afancod yn aros yn y pen, achos mae gyda ni waith sydd angen ei wneud ar y gwlypdir yma.
"Does dim byd gyda dim risg o gwbl, ond rydym ni'n meddwl bod y risg o'r afancod yn dianc yn isel iawn."