Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Van den Bogerd yn gadael CBDC yn sgil ymadawiad Ford
Mae wedi dod i'r amlwg fod Angela van den Bogerd hefyd wedi gadael Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn sgil ymadawiad y prif weithredwr Jonathan Ford.
Mae 91Èȱ¬ Cymru yn deall nad ydy'r gymdeithas wedi ymestyn cyfnod prawf van den Bogerd - gafodd ei phenodi yn 'bennaeth pobl' CBDC ar ddiwedd 2020.
Doedd y gymdeithas ddim eisiau gwneud sylw ynglŷn â'r mater ond maen nhw wedi cadarnhau ei bod wedi gadael ei swydd.
Roedd van den Bogerd yn arfer bod yn un o gyfarwyddwyr Swyddfa'r Post.
Cafodd ei beirniadu gan farnwr am geisio camarwain llys barn mewn achos dadleuol ble cafodd sawl is-bostfeistr eu cyhuddo ar gam o ddwyn arian gan eu cyflogwyr.
Roedd penodiad van den Bogerd yn un o'r materion wnaeth arwain at bleidlais o ddiffyg hyder yn Mr Ford gafodd ei phasio ar 22 Chwefror.
Bydd Ford a van den Bogerd yn gadael eu swyddi yn swyddogol ar 31 Mawrth, ond mae 91Èȱ¬ Cymru yn deall eu bod eisoes wedi gadael y gymdeithas.