Brexit: Heriau pellach i'r diwydiant ceir

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae tua 16,000 o bobl yn gweithio yn y diwydiant ceir yng Nghymru

Mae diwydiant ceir Cymru'n wynebu heriau pellach i fasnachu oherwydd newidiadau yn sgil Brexit, meddai arbenigwyr.

Mae cwymp o 30% mewn gwerthiant ceir yn rhannol oherwydd trafferthion gyda threthi a thollau ers i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, meddai Fforwm Modurol Cymru (FMC).

Nawr mae pryder y gallai rheolau newydd ar fewnforion o Ionawr nesaf achosi problemau pellach.

Dywedodd Llywodraeth y DU bod cytundebau masnach newydd yn creu buddion i fusnesau.

Ers Ionawr eleni mae gyrwyr cerbydau nwyddau wedi gorfod dangos gwaith papur penodol er mwyn cludo rhwng y DU a'r UE.

Mae rhai busnesau'n dweud eu bod wedi colli miloedd o bunnau o ganlyniad i drafferthion gyda'r drefn newydd a Covid-19 mewn porthladdoedd.

Dywedodd FMC bod sawl cwmni eisoes wedi cael dirwyon am fod nwyddau wedi bod yn hwyr oherwydd "problemau cychwynnol" gyda phrosesau 么l-Brexit.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae angen dangos gwaith papur penodol er mwyn cludo nwyddau o borthladdoedd fel Caergybi

Mae hynny er nad yw'r system wedi profi lefelau masnachu arferol eto oherwydd y pandemig.

Dywedodd y fforwm hefyd bod y rheolau newydd yn peryglu'r model gyflenwi - sy'n dibynnu ar nwyddau yn cyrraedd wrth fod eu hangen er mwyn lleihau anghenion storio a gwastraff.

Mae FMC yn pryderu am drafferthion pellach pan ddaw mwy o newidiadau i rym ar fewnforion o Ionawr nesaf.

"Rydyn ni'n gweld llawer o'r drafferth ar hyn o bryd ar yr allforion o'r DU i'r UE, sydd wedi bod yn destun rheolau newydd ers 1 Ionawr", meddai Robert O'Neil o FMC.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n fater o gadw golwg agos iawn ar sut y bydd y sefyllfa'n datblygu wrth i fewnforion wynebu prosesau gwirio newydd yn 2022."

Roedd busnesau hefyd wedi bod yn paratoi am newidiadau i'r system o fewnforio ar 1 Gorffennaf eleni.

Ond penderfynodd Llywodraeth y DU i oedi cyflwyno'r rheiny'r wythnos diwethaf.

Gallai rheolau llymach ar fewnforio cydrannau ceir hefyd gael effaith ar y diwydiant yng Nghymru, meddai Mr O'Neil, er bod rhai'n dadlau y bydd yn gyfle am fwy o gynhyrchu yn y DU.

Disgrifiad o'r llun, Mae rhai yn gobeithio bydd y newidiadau masnachu yn arwain at fwy o rannau ceir yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru

Dywedodd arbenigwr o Brifysgol Caerdydd, Dr Jane Lynch, bod y problemau'n "aciwt" wrth i gwmn茂au droi at gynhyrchu cerbydau trydan.

Ond ychwanegodd: "Beth am i ni weld hyn fel cyfle yn hytrach na bygythiad, fe allai busnesau arloesi nawr.

"Does dim amser gwell i gwmn茂au greu niche i'w hunain..."

Sefyllfa 'allan o'n rheolaeth'

I Nicholas Brainsby o Applied Component Technology - cwmni sy'n cynhyrchu cydrannau ceir yn Wrecsam - mae gallu cyflenwi mwy o gwmn茂au "allan o'n rheolaeth i raddau".

Ond dywedodd mai'r hyn allai wneud ydy "sicrhau ein bod ni'n gystadleuol o'i gymharu hefo cynhyrchwyr eraill yn Ewrop ac ymhellach".

Dywedodd Llywodraeth y DU ei bod wedi ymrwymo i sicrhau bod y DU yn "parhau'n un o'r lleoliadau gorau yn y byd" ar gyfer y diwydiant ceir, a bod cytundebau masnach newydd yn creu cyfleoedd newydd i fusnesau dros y wlad.