Rheolau coronafeirws newydd mewn grym yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, Nathan Stirk

Mae rheolau coronafeirws newydd wedi dod i rym sy'n ymestyn hawliau pobl yng Nghymru i gwrdd 芒 ffrindiau a pherthnasau yn yr awyr agored.

O ddydd Sadwrn, mae gofyn i bobl aros yn lleol yn hytrach nag aros gartref.

Mae cyfleusterau chwaraeon awyr agored hefyd yn cael ailagor ac mae ymweliadau dan do 芒 chartrefi gofal yn cael ailddechrau ar gyfer un ymwelydd.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn llacio'r cyfyngiadau mewn ffordd "ofalus, pwyllog a graddol".

Er y newidiadau mae Cymru'n parhau dan lefel rhybudd 4.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Gall pedwar o bobl o ddwy aelwyd gwrdd yn yr awyr agored i gymdeithasu, gan gynnwys mewn gerddi. Does dim angen cyfri plant o fewn y cyfanswm hwnnw.

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i bobl aros yn lleol ond mae yna gydnabyddiaeth bod hynny'n golygu teithiau pellach yn achos pobl sy'n byw mewn mannau gwledig o'i gymharu 芒 thrigolion ardaloedd dinesig a threfol.

Y canllaw cyffredinol, meddai'r Prif Weinidog, Mark Drakeford ddydd Gwener, yw aros o fewn pum milltir o'r cartref.

"Ond os rydych yn byw yn un o gymunedau'r cymoedd neu mewn ardal wledig gallwch ddefnyddio eich synnwyr cyffredin a mynd ychydig ymhellach," ychwanegodd.

Mae'r gofyniad ond yn debygol o barhau tan 27 Mawrth, gan ddibynnu bod y sefyllfa yn gyffredinol yn parhau ar y trywydd cywir.

'Wrth ein boddau cael ailagor'

Mae cyrtiau tenis a ph锚l-fasged awyr agored bellach yn cael ailagor, yn ogystal 芒 meysydd golff.

Ymhlith y rhai sydd wedi penderfynu ailagor ddydd Sadwrn yw Clwb Golff Llanisien ar gyrion Caerdydd ond ar gyfer chwarae cymdeithasol yn unig.

Gan mai ond pedwar o bobl gall ddod at ei gilydd yn yr awyr agored mae'n amhosib ailddechrau cystadlaethau.

Disgrifiad o'r llun, Mae rheolwr Clwb Golff Llanisien, Martin Stevens yn rhagweld cyfnod prysur ar 么l ailagor

Dywedodd rheolwr cyffredinol y clwb, Martin Stevens: "Rydym wrth ein boddau i allu ailagor."

Ychwanegodd bod y diwydiant golff "wedi elwa o'r cyfnod clo mewn ffordd oherwydd rydym wedi cael llawer mwy o ymholiadau am aelodaeth achos mae pobl yn gwybod bod hwn yn gamp diogel iawn yn y cyfnod pryderus yma.

"Mae'r galw am golff pan rydym wedi bod ar agor wedi bod yn enfawr ac rydyn ni'n disgwyl bod yn llawn yma nawr ac am y cyfnod nesaf."

Ailddechrau ymweliadau 'fesul cam a gyda phwyll'

Mae ymweliadau dan do 芒 chartrefi gofal yn ailddechrau o ddydd Sadwrn ymlaen ar gyfer un ymwelydd dynodedig.

Croeso gofalus gafodd y cyhoeddiad gan gorff sy'n cynrychioli perchnogion cartrefi gofal.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae prif weithredwr Fforwm Gofal Cymru, Mary Wimbury wedi canmol penderfyniadau pwyllog Llywodraeth Cymru/

Ond mae'n ofni bod codi gobeithion anwyliaid preswylwyr yn rhoi llawer o gartrefi mewn "sefyllfa amhosib" yn y tymor byr.

Mae'n rhybuddio bod angen i gartrefi unigol gynnal asesiadau risg manwl cyn caniat谩u ymweliadau fesul cam a "gyda phwyll".

Dywedodd: "Dydy o ddim fel pwyso botwm a phawb yn mynd yn 么l yn syth i'r normalrwydd cyn y pandemig.

"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu rhyw fath o normalrwydd yn yr wythnosau a misoedd i ddod."

Ychwanegodd bod pryderon yn parhau ynghylch diogelu pobl rhag amrywiolion o'r feirws gyda'r darogan bod trydedd don o achosion yn anochel, ac amrywiaethau ar draws Cymru o ran rhoi ail ddos o'r brechiad i breswylwyr cartrefi gofal.