Ateb y Galw: Golygydd newyddion digidol S4C, Ioan Pollard

Ffynhonnell y llun, Ioan Pollard

Golygydd newyddion digidol S4C, Ioan Pollard sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddo gael ei enwebu gan Heledd Roberts.

Mae gwasanaeth newydd S4C yn cael ei lansio ym mis Ebrill, gyda'r bwriad o ddarparu newyddion amrywiol yn y Gymraeg ar ffurf fideo a thestun, gan dargedu pobl ifanc.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mynd am benwythnos i Lundain yn ystod hanner tymor hydref - mae'n si诺r mod i tua tair oed - gyda fy rhieni, fy nain a fy nghefnder. Cofio mynd i aros i westy'r Regent Palace ger Piccadilly Circus a chael cyfle i ymweld 芒 Arnold Schwarzenegger yn Madame Tussauds.

Pwy oeddet ti'n ei ffans茂o pan yn iau?

Fy hun!

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Dwi wir wedi pendroni fwy am y cwestiwn yma na'r un arall, felly am gynnig tair c芒n i chi!

Mark Roberts - Y Pwysau. Mae'n si诺r mai'r gig ddiwethaf gofiadwy i mi fynd iddi oedd gig nos Sadwrn ola' Eisteddfod Llanrwst, felly mae'n braf gallu ail-fyw'r noson honno.

Oasis - Live Forever. Un o'r gigs 'go iawn' cyntaf i mi oedd Oasis yn yr hen CIA yng Nghaerdydd, roeddwn yn fy arddegau, ac roedd yn gyfnod da iawn. Mi fyswn wedi gallu dewis unrhyw g芒n oddi ar dair albwm cyntaf Oasis i ddweud y gwir.

Emyn d么n T欧 Ddewi - mynd 芒 dyn yn 么l i'w blentyndod.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Unrhyw le yn Nyffryn Nantlle neu ar Ynys Cybi. Mae fy ngwreiddiau yn ddwfn yn y ddwy ardal, hoff iawn o yrru dros Fwlch yr Oerddrws ger Dinas Mawddwy hefyd (yn gyrru tuag at Eryri, tra'n gwrando ar gerddoriaeth wladgarol.)

Ffynhonnell y llun, Ioan Pollard

Disgrifiad o'r llun, Dyffryn Nantlle yn ei holl ogoniant

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Penderfynol, uchelgeisiol a direidus.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Pan ges i achos reit ddrwg o conjunctivitis yn 2012.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'n cofio'n blentyn, bod ar wyliau teulu yn ardal Telford o Loegr. Roedd parc antur ger y gwesty, a dwi'n cofio dringo i dop polyn uchel (er gwaethaf rhybuddion gan fy nhad i beidio gwneud hynny) ac yna dychryn fy mod wedi mynd mor uchel, doeddwn i methu dod i lawr! Ac yn y comoshwn o drio gwneud hynny, yn anffodus i'r rhai oddi tanai, mi nesh i wneud d诺r reit o dop y polyn o flaen pawb!

Hefyd ydach chi'n cofio The Cheeky Girls? Wel mi wnes i a chyfaill i mi, Emrys, ymgais o ddynwared y Cheeky Girls ar lwyfan eisteddfod yr ysgol (mi fysa ni wedi gwneud unrhywbeth i sicrhau fod T欧 Dulyn yn ennill yn yr eisteddfod). Diolch byth fod hyn cyn dyfodiad camer芒u mewn ff么ns clyfar!

Ffynhonnell y llun, Brian Rasic

Disgrifiad o'r llun, The Cheeky Girls - pa un oedd Ioan, tybed?

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Roedd G诺yl y Banc Awst 2008 yn un arbennig iawn am sawl rheswm; roeddwn newydd orffen fy Lefel A ac ar fin mynd i'r brifysgol, roeddwn yn cymryd rhan ar gyfres deledu gyda'r 91热爆 yn Llundain, ac fe gafon ni barti gwyllt gyda chriw o ffrindiau da yno. Ac mae 'na noson fwy diweddar o weld Leeds United yn cael eu dyrchafu i Uwchgynghrair Lloegr yn dod yn agos i'r brig hefyd.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Gormod o eistedd!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cynnal te angladd mawreddog i fi fy hun, o bosib yng ngwesty Bryn Eisteddfod, Clynnog Fawr. Lle well? Rhwng yr Wyddfa 芒'r m么r, gyda phawb sy'n annwyl i mi yn rhan o'r achlysur.

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae gen i barchedig ofn o fynd yn hen!

O archif Ateb y Galw:

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Y ffilm ydi Notting Hill - wrth fy modd efo Llundain, ac mae'r ffilm yma yn dangos y ddinas ar ei gorau!

O ran nofelau, does dim yn dod yn agos i Trysor y M么r Ladron gan T Llew Jones a Dirgelwch Plas y Tylluanod gan Glenda Jones. Mi ddarllenais i'r llyfrau yma pan yn blentyn, ac felly yn berchen ar ddychymyg byw iawn, felly roeddwn yno yn byw y profiadau gyda'r cymeriadau yn y straeon.

Gan fy mod yn greadur eithaf busneslyd, dwi wrth fy modd yn gwrando ar bodlediadau sy'n twrio mewn i hanes pobl, felly mae Desert Island Discs a Beti a'i Phobol yn gwmni da iawn ar deithiau hir yn y car. Podlediad newydd S4C, sy'n rhan o gyfres Sgwrs Dan y Lloer, sy'n cael sylw ar hyn o bryd!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Fy ddau daid, yn anffodus does 'run o'r ddau yn fyw erbyn hyn. Nes i erioed adnabod fy nhaid ar ochr fy nhad, ond fe gafodd Taid Pesda ddylanwad mawr ar fy magwraeth.

Dwi'm yn si诺r iawn lle fyswn i'n mynd 芒 nhw, na beth fysan ni'n yfed. Roedd un yn lwyr ymwrthodwr, 芒'r llall yn Wyddel - felly 'dach chi'n gweld fy mhroblem i?!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Unrhyw Brifardd Cadeiriog yng Nghymru. Mi faswn wrth fy modd gallu cynganeddu, dwi wedi rhoi sawl ymgais ar drio dysgu'r grefft, ond heb unrhyw lwyddiant!

Disgrifiad o'r llun, Fyddwn ni'n gweld Ioan yn cael ei gadeirio gan Archdderwydd rhyw ddydd?

Ond mewn byd dychmygol, fe hoffwn fod yn Peter Pan am y dydd - peidio heneiddio diwrnod yn fwy, ac fe fyddai'r gallu i hedfan yn eithaf gwych!

Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf - Dragon scotch egg o siop Dafydd Povey yn Chwilog.

Cwrs Pysgod (ddaru chi anghofio gofyn am hwn) - Kedgeree o fwyty The Wolseley yn Llundain.

Prif Gwrs - 糯y a chips wedi eu coginio gan Pamela yng nghaffi Yr Orsaf ym Mhenygroes.

Pwdin - Pwdin reis (efo'r croen) wedi ei wneud gan Nain Pesda.

A mwynhau'r cyfan efo potel o win Pinot Noir dda o Seland Newydd.

Pwy wyt ti'n ei enwebu?

Dr David R Williams