Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynnig i ddiddymu rheoliadau llygredd amaethyddol yn methu
- Awdur, Steffan Messenger
- Swydd, Gohebydd Amgylchedd 91热爆 Cymru
Fe wnaeth y ffrae yngl欧n 芒 mesurau i daclo llygredd amaethyddol gyrraedd uchafbwynt yn y Senedd ddydd Mercher - mae'r mater wedi rhannu ffermwyr ac amgylcheddwyr a hollti'r byd gwleidyddol.
Nod y gwrthbleidiau oedd ceisio diddymu y rheoliadau llym newydd y mae Llywodraeth Cymru'n gobeithio eu cyflwyno o fis Ebrill ymlaen.
Ond nos Fercher yn y Senedd cafodd y cynnig i ddiddymu'r rheoliadau ei wrthod.
Roedd 27 o blaid, neb yn ymatal a 30 yn erbyn.
Dywed ffermwyr eu bod wedi'u cythruddo gan y cynlluniau i gyfyngu ar wasgaru slyri a gwrtaith.
Ond mae pysgotwyr a grwpiau amgylcheddol yn dadlau ei bod hi'n hanfodol fod y drefn newydd yn dod i rym.
Bydd y rheolau'n cael effaith yn arbennig ar ffermydd llaeth - wrth i'r rheoliadau gael eu cyflwyno'n raddol dros gyfnod o dair blynedd a hanner.
Maen nhw'n cynnwys mwy o waith papur gan y bydd angen asesu'r risg o lygru ar bob fferm a hefyd bydd angen sicrhau bod cyfleusterau digonol i storio gwerth pum mis o slyri.
Hefyd byddai gwaharddiad ar wasgaru slyri o ddiwedd yr hydref am gyfnod o dri mis bob blwyddyn.
Y syniad yw ceisio osgoi sefyllfa lle mae'n gollwng oddi ar gaeau i mewn i nentydd ac afonydd yn ystod tywydd gwlyb.
Serch hynny - mae ffermwyr yn honni y gallai cyflwyno rheoliadau waethygu'r broblem gan y byddai'n rhaid iddyn nhw fod allan yn gwagio eu storfeydd yn ystod yr wythnosau cyn ac ar 么l y cyfyngiadau.
'Tri achos o lygredd bob wythnos'
Dywed Llywodraeth Cymru fod yn rhaid gweithredu gan fod tri achos o lygredd amaethyddol bob wythnos ar gyfartaledd, a bod hynny yn lladd pysgod a bywyd gwyllt ac yn peryglu iechyd y cyhoedd.
Disgrifio'r rheoliadau newydd fel yr "ateb anghywir i'r cwestiwn cywir" mae llefarydd Plaid Cymru ar yr amgylchedd, Llyr Gruffydd.
Mr Gruffydd oedd yn gyfrifol am y cynnig yr oedd aelodau'r Senedd yn pleidleisio arno - cynnig oedd yn galw am ddiddymu'r mesurau arfaethedig.
Dywedodd Mr Gruffydd bod un polisi ar gyfer Cymru gyfan yn "anghymesur" ac yn peryglu "canlyniadau anfwriadol i'r amgylchedd [tra'n] tanseilio hyfywedd llawer o ffermydd".
Dywed hefyd bod y rheoliadau yn mynd yn llawer pellach na'r cyngor a roddwyd i weinidogion gan Gyfoeth Naturiol Cymru - roedden nhw wedi awgrymu mai oddeutu 8% o'r wlad ddylai fod o dan gyfyngiadau llymach.
'Angen targedu'r mesurau'
"Does 'na neb yn dweud na ddylen ni fod yn gweithredu, neb yn dweud y dylen ni fod yn sefyll i un ochr - mae'n rhaid i ni fynd i'r afael 芒 hyn," pwysleisiodd Mr Gruffydd.
"Ond mae angen mesurau sydd wedi'u targedu i ardaloedd penodol yng Nghymru lle mae 'na drafferthion gyda llygredd amaethyddol."
Cafodd pleidlais ddydd Mercher ei chynnal wedi dadl danllyd arall ar y pwnc fis diwethaf yn y Senedd o dan arweiniad y Ceidwadwyr Cymreig.
Roedd y gwrthbleidiau wedi galw ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Dirprwy Weinidog Diwylliant Dafydd Elis-Thomas, aelod annibynnol - i bleidleisio gyda nhw i drechu cynlluniau'r llywodraeth.
Mae'r ddau yn gadael y Senedd wedi'r etholiad eleni ac yn cynrychioli etholaethau lle mae amaethyddiaeth yn ddiwydiant pwysig.
'Gwario degau o filoedd'
Dywedodd Jeff Evans, ffermwr llaeth o Gas-blaidd, Sir Benfro ei fod yn ymbil ar aelodau'r senedd i "feddwl am y pictiwr mawr" a dyfodol cymunedau gwledig wrth bleidleisio ddydd Mercher.
Mae asesiad effaith economaidd y llywodraeth wedi awgrymu y gallai'r costau sy'n wynebu'r diwydiant wrth i ffermwyr orfod uwchraddio storfeydd slyri i gyrraedd gofynion y rheolau newydd fod cymaint 芒 拢360m.
Mae Mr Evans yn rhagweld y bydd yn rhaid iddo fe wario rhwng 拢80,000 a 拢100,000 er mwyn cwrdd 芒'r gofynion.
"Mae'n wir y bydd pobl yn meddwl yn galed iawn cyn gwneud hynny," meddai. "Bydd rhai yn dweud 'dwi wedi cael digon o hyn' - mae'n ddigon i roi pobl mas o fusnes."
Mae amseru'r cyhoeddiad yn "siomedig iawn" hefyd, medd Mr Evans, ar 么l i'r Gweinidog Amgylchedd Lesley Griffiths addo'n flaenorol na fyddai'n cyflwyno'r mesurau yn ystod y pandemig.
"A dyma ni yng nghanol bron 芒 bod yr amser gwaetha' a ma' nhw'n dod mas 芒 nhw," meddai.
"Mae'r [berthynas] rhwng y diwydiant a'r llywodraeth wedi mynd yn isel iawn."
'Mewn peryg o golli creaduriaid prin'
Ar y llaw arall mae pysgotwyr ac amgylcheddwyr yr un mor angerddol yn eu cefnogaeth i'r rheoliadau, ac yn dadlau bod cynnwys Cymru gyfan yn bwysig.
"Y peth ola 'dan ni eisiau 'neud yw symud gweithgaredd sy'n peryglu'r amgylchedd o ardaloedd lle mae 'na broblem yn barod i ardaloedd lle nad oes problem eto," eglurodd Rory Francis, swyddog eiriolaeth targedau natur gyda Cyswllt Amgylchedd Cymru.
"Yr ateb gorau yw helpu ffermwyr a chefnogi ffermwyr i ddefnyddio arferion amaethyddol da r诺an a sicrhau eu bod nhw'n cael y gefnogaeth i wneud hynny - a gwneud hynny drwy Gymru gyfan."
Fe ddywedodd bod llygredd afon yn broblem sylweddol yng Nghymru.
"Trodd Afon Gwy yn wyrdd y llynedd, mae dwy afon allan o dair ddim yn cwrdd 芒 safonau Ewropeaidd a 'dan ni mewn peryg o golli creaduriaid prin fel cimychiaid afon a misglod perlog o Gymru," meddai.
"Wrth gwrs felly ry'n ni'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud rhywbeth am hyn a 'dan ni eisiau eu gweld nhw yn cydweithio 芒 ffermwyr i gwrdd 芒'r safonau hyn."
Dywedodd y Gweinidog Amgylchedd, Lesley Griffiths, na all hi aros yn hwy cyn cyflwyno rheolau newydd "gan ein bod ni'n gweld llawer gormod o achosion o lygredd - wythnos ar 么l wythnos, mis ar 么l mis, blwyddyn ar 么l blwyddyn".
"Nid dim ond mewn ardaloedd penodol o Gymru mae 'na broblemau - os edrychwch chi ar y map mae hyn ar draws y wlad," meddai.
Dywedodd nad oedd wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod ffermwyr yn mynd i roi'r gorau i'r diwydiant o ganlyniad i'r newidiadau a bod Llywodraeth Cymru yn barod wedi cyflwyno dros 拢45m o gyllid tuag at y gwelliannau, gan addo "i wneud popeth i gefnogi ein ffermwyr".
"Wrth gwrs dwi ddim yn hoffi gweld y fath hollt o ran ymateb pobl i hyn - mae'n llawer gwell gallu gweithio gyda'n gilydd ar bethau fel hyn," meddai, gan honni bod y mwyafrif o'r adborth y mae wedi'i dderbyn wedi dod gan bobl "sy'n hapus iawn i weld y rheoliadau".