Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ofnau am brinder merched yn y Senedd newydd
- Awdur, Teleri Glyn Jones
- Swydd, Gohebydd 91热爆 Cymru
Mae'r diffyg merched mewn seddi sy'n bosibl i'w hennill yn ganlyniad i laesu dwylo gan bleidiau gwleidyddol yn 么l elusen cydraddoldeb rhyw flaenllaw.
Yn 么l Cerys Furlong o Chwarae Teg, "mae'n hynod siomedig bod y Senedd nesaf yn debygol o fod yn cymryd cam difrifol a phryderus yn 么l."
Gyda'r rhan helaeth o ymgeiswyr i'r Senedd eisoes wedi eu dewis mae rhai pleidiau yn edrych fel petai nhw wedi dewis nifer hafal o ferched.
Nifer o ymgeiswyr benywaidd:
Llafur- 50% ymgeiswyr benywaidd
Plaid Cymru- 41% ymgeiswyr benywaidd
Ceidwadwyr- 34% ymgeiswyr benywaidd
Democratiaid Rhyddfrydol- 29%
Ond, yn 么l rhagolygon gan yr ymgynghorwyr gwleidyddol Deryn sydd wedi eu selio ar arolygon barn diweddar, mae'r nifer o ferched mewn seddi ble y mae gobaith ganddyn nhw ennill yn llawer is.
O'r 29 o ferched sy'n sefyll dros y blaid Lafur, dim ond 16 sydd mewn seddi y mae gobaith iddyn nhw eu hennill.
Mae gan Blaid Cymru 19 o ferched yn sefyll ond dim ond 9 sy'n debygol o gael eu hethol.
Tra bod 16 o ferched yn ymgeiswyr dros y Ceidwadwyr, dim ond tair sydd mewn seddi y mae gan y blaid obaith o'u hennill.
A does gan y Democratiaid Rhyddfrydol ddim un dynes mewn sedd sydd yn bosibl iddyn nhw i'w hennill o'r 11 sy'n sefyll.
Yn 么l Cerys Furlong, "mae Llafur a Phlaid Cymru wedi llaesu dwylo ar hyn. Mae na wanhau wedi bod ar weithredu positif blaengar y gorffennol yn y maes yma. I fod yn blaen, dy'n ni ddim wedi gweld unrhyw weithredu o gwbwl gan y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol a tydy hynny ddim digon da."
Yn 2003 roedd Cymru ar flaen y g芒d. Yn dilyn yr etholiad y flwyddyn honno y Cynulliad Cenedlaethol (fel roedd y sefydliad yn cael ei adnabod ar y pryd) oedd y corff deddfwriaethol cyntaf yn y byd i ethol nifer cyfartal o ddynion a merched.
Mi arweiniodd hynny at bolis茂au blaengar a gwahanol yn 么l un o gyn-aelodau'r Cynulliad. Mae Nerys Evans bellach yn gyfarwyddwr ar gwmni ymgynghorwyr gwleidyddol Deryn:
"O ganlyniad i'r gwell cynrychiolaeth yma, mi welson ni bolis茂au a deddfwriaeth oedd yn torri tir newydd yn nhermau gofal, yn nhermau iechyd meddwl ac yn nhermau trais yn y cartref.
"Fyddai'r polisiau yma ddim wedi cael blaenoriaeth heb leisiau menywod yn y Senedd ac yn Llywodraeth Cymru yn dadlau o blaid materion sy'n bennaf yn effeithio menywod."
Mae'r aelod Ceidwadol, Suzy Davies, yn wynebu colli ei sedd yn yr etholiad ar 么l i ymgeiswyr ifanc gwrywaidd gael eu dewis i gynrychioli'r blaid ar frig y rhestr ranbarthol. Mae hi'n credu bod pob plaid erbyn hyn yn deall yr angen i adlewyrchu cymdeithas, ond y broblem yw prosesau.
"Mae'n anodd iawn pan mae gennych chi system leol iawn i ofyn i ganghennau lleol wneud penderfyniadau strategol ar ran y blaid- rwy'n derbyn hynny. Ond mae'n rhywbeth mae'n rhaid i hierarchy'r blaid edrych arno er mwyn helpu i ganghennau lleol ddeall yn well."
Bellach mae Suzy Davies yn gyfarwyddwr ar gr诺p Women 2 Win y blaid yng Nghymru sydd yn ceisio cael mwy o ferched i mewn i seddi y mae gobaith ganddyn nhw i'w hennill. Mae hi'n dweud ei bod hi'n hynod siomedig nad ydy'r merched sydd yn rhan o'r prosiect mewn seddi da.
"Mi fyddwn i wedi bod wrth fy modd yn gweld hynny ac rydw i'n edrych eto ar ein prosesau i holi pam bod hynny wedi mor anodd pan mae na ddynion newydd yn codi eu pennau ac maen nhw mewn seddi mwy hyfyw".
Mae Bethan Sayed yn Aelod Plaid Cymru o'r Senedd sydd yn camu o'r neilltu eleni ac mae hi wedi siarad o'r blaen am ei phenderfyniad i beidio sefyll oherwydd ei bod hi'n ei weld yn anodd cael balans rhwng bod yn fam newydd a'r oriau hir, ansefydlog sy'n rhan o fywyd fel gwleidydd.
Mae hi wedi galw am gael rhannu swyddi er mwyn gwneud hi'n haws i bobol sy'n gofalu am eraill i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ond mae'n credu bod rhaid mynd ymhellach na hynny.
Dywedodd: "Rydyn ni'n byw mewn cymdeithas anghyfartal. Os na byddai gymaint o fenywod yn gorfod gofalu am eraill, os na byddai gymaint o fenywod ar gytundeb dim oriau fe fyddwn i'n dweud, ie, gr锚t, beth am gael meritocracy.
"Ond tan mae gennym ni system gyfartal, mi fydd angen cwotas ac mi fydd angen mesurau fel rhannu swyddi".