'Dylid brechu pobl 芒 chlefydau'r ysgyfaint yn gynt'

Dylai pobl gydag asthma a chlefydau eraill yr ysgyfaint fod yn flaenoriaeth yng nghymal nesaf y rhaglen frechu rhag Covid-19, yn 么l partneriaeth sy'n cynrychioli dioddefwyr.

Mae cleifion sydd 芒'r symptomau mwyaf difrifol wedi'u cynnwys o fewn y grwpiau blaenoriaeth ond mae'r Sefydliad Ysgyfaint Prydeinig ac Asthma UK yn poeni bod y gweddill yn syrthio trwy fylchau'r rhaglen frechu.

Mae'n nhw'n pwyso ar bedair llywodraeth y DU i sicrhau fod pob dioddefwr asthma yn cael ei cynnwys yng ngrwpiau blaenoriaeth 4 neu 6 y rhaglen.

Dywed Llywodraeth Cymru fod pobl 芒 symptomau difrifol o'r fogfa yn cael blaenoriaeth gan fod mwy o berygl iddyn nhw petaen nhw'n dal y feirws.

'Synnu'

Mae dros 300,000 yn dioddef o'r fogfa yng Nghymru ac mae difrifoldeb y symptomau'n amrywio o berson i berson.

Mae'r dioddefwyr sydd 芒'r symptomau mwyaf difrifol eisoes wedi cael y brechlyn coronafeirws fel rhan o'r grwpiau blaenoriaeth 4 a 6.

  • Gr诺p 4 - pawb dros 70 oed a phobl eithriadol o agored i niwed yn glinigol, sef y gr诺p "gwarchod" gynt
  • Gr诺p 6 - pobl rhwng 16 a 64 oed sydd 芒 chyflwr iechyd sylfaenol, sy'n golygu eu bod mewn mwy o berygl o salwch difrifol a marwolaeth

Dywed yr elusennau bod llawer o gleifion sydd 芒 symptomau cymedrol neu ysgafn "yn synnu" na chawson nhw eu cynnwys o fewn categori 6.

Mae hynny, meddan nhw, "wedi achosi dryswch gan mai'r neges i'r bobl hyn dros y flwyddyn ddiwethaf oedd eu bod yn fregus yn glinigol petawn nhw'n dal Covid-19".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae ansicrwydd, meddai Mathew Norman, llefarydd ar ran y Sefydliad Ysgyfaint Prydeinig yng Nghymru, ynghylch "lle mae pobol ar y rhestr" a pha bryd dylsen nhw gael gwybod pryd y byddan nhw'n cael eu brechu.

Pryder arall yw bod risg i gyflwr rhai cleifion waethygu yn y tymor hir os ydyn nhw'n gyndyn o ychwanegu at faich y gwasanaethau iechyd ar hyn o bryd.

Awgrymodd canlyniad arolwg diweddar bod nifer fawr o ddioddefwyr clefydau'r ysgyfaint "ddim isio mynd i'r GIG achos ma' nhw dan bwysa' mawr".

"Be' 'dan ni'n poeni am ydy pobol ddim yn gweld eu GP nhw, neu mynd i'r ysbyty, pan ddylsen nhw," meddai.

"Neu pobl sydd efo, deud, pedwch dros tymor hir a dim 'di gweld neb amdano fo a mynd yn waeth wrth bod nhw heb gweld eu doctor nhw."

'Wedi bod yn ofalus iawn'

Mae Stephanie Phillips Morris o Lanidloes yn byw gyda chyflwr prin sarcoidosis, sy'n effeithio ar sawl rhan o'r corff gan gynnwys yr ysgyfaint.

Mae'n achosi i'r system imiwnedd "gorweithio so mae'n creu llid yn yr organau. Mae rhywun yn pesychu, ac fel arfer os ydy'r sefyllfa'n wael, 'dach chi'n gorfod cymryd tabledi steroids.

"Dwi ddim wedi bod yn cysgodi ond dwi wedi bod yn ofalus iawn, iawn i beidio cymysgu 芒 phobl eraill yn ystod y pandemig.

"Dwi yn sylweddoli... 'mod i yn fregus iawn a 'mod i yn, falle, mewn perygl."

Yn 么l yr elusennau, dydy pobl ag asthma ddim yn fwy tebygol o farw o coronafeirws, ond mae'r risg o orfod cael triniaeth ysbyty a chymhlethdodau yn sgil eu cyflwr yn dal yn achosi risg uwch nag yn achos pobl heb asthma.

"Mae wedi bod yn flwyddyn gyfa' r诺an 'dan ni heb 'di ga'l gweld pobl, yn cael edrych ar eu gofal nhw yn ystod y cyfnod yma," meddai Mathew Norman.

"Be' 'dan ni isio gweld r诺an ydi, drwy'r rhaglen [frechu], gobeithio gallwn ni lleihau faint o bobl sy'n mynd i fewn i'r GIG, mynd i fewn i'r ysbyty.

"Ac wrth i hyn ddigwydd, gawn ni'r GIG i fynd n么l wedyn i edrych ar 么l pobl sydd efo clefyd fel clefyd ysgyfaint."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y rheiny sydd 芒 symptomau difrifol o'r fogfa ac yn defnyddio steroidau drwy'r ceg, neu sydd wedi bod angen triniaeth ysbyty, mewn mwy o beryg o gael y feirws ac felly wedi eu cynnwys yn y rhaglen frechu."