Cau ffyrdd a rheilffyrdd yn sgil llifogydd a glaw trwm

Disgrifiad o'r llun, Mae Canolfan y Cei wrth ymyl yr Afon Tywi yng Nghaerfyrddin

Mae rhybuddion am lifogydd mewn grym ar draws Cymru yn sgil rhybudd oren am law trwm ddydd Sadwrn.

Yn 么l y Swyddfa Dywydd, disgynnodd gwerth mis o law mewn rhai ardaloedd o dde Cymru.

Mae'r glaw wedi achosi rhai rheilffyrdd a ffyrdd i gau ar draws Cymru, yn cynnwys y B4459 yng Nghapel Dewi, Ceredigion, o ganlyniad i dirlithriad, yn 么l Cyngor Ceredigion.

Cafodd nifer o dai ar Teifi Terrace yng Nghastell Newydd Emlyn eu gwagio o ganlyniad i risg o lifogydd, yn 么l Heddlu Dyfed-Powys.

Daeth rhybudd melyn am law i rym ar gyfer y mwyafrif o Gymru am 09:00 fore Gwener ac mae'n para tan 02:00 fore Sul.

Roedd rhybudd oren, mwy difrifol, mewn grym ar gyfer rhannau mawr o'r de a'r canolbarth o 20:00 nos Wener nes 16:00 ddydd Sadwrn.

Achosodd llifogydd lleol ffyrdd ym Mhowys i gau, yn cynnwys yr A483 rhwng Groe Street, Llanfair-ym-muallt a'r A481 yn Llanelwedd, yn ogystal 芒'r A4077 Pont Crughywel a'r A40 Ffordd Brycheiniog.

Yn Sir Gaerfyrddin mae'r A4242 yng Nghaerfyrddin, a'r A4069 yn Llanymddyfri a Llangadog wedi cau, ac yng Ngheredigion mae Church Street yn Llandysul wedi cau ger y clwb criced.

Caewyd yr A4061 o Stad Ddiwydiannol Hirwaun i'r A465 ger cylchfan y Rhigos, Rhondda Cynon Taf hefyd, yn ogystal 芒'r A4042 Pont Llanelen yn Sir Fynwy.

Mae nifer o reilffyrdd wedi'u heffeithio gan y glaw trwm, yn cynnwys y rheilffyrdd rhwng Henffordd a Chasnewydd, Abercynon ac Aberd芒r, Ynyswen a Merthyr Tudful, a Parcffordd Glyn Ebwy a Glyn Ebwy.

Dwywaith cymaint

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd

Disgrifiad o'r llun, Mae'r rhybudd oren mewn grym ar gyfer y 13 o siroedd yn y de a'r canolbarth

Dywedodd uwch swyddog gyda'r Swyddfa Dywydd, Marco Petagna, y gallai ardaloedd o fewn y rhybudd oren weld 200mm o law, sydd ddwywaith y cyfartaledd ar gyfer Chwefror.

Erbyn nos Wener roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi un rhybudd llifogydd, a 30 rhybudd i baratoi am lifogydd ar draws Cymru. Maen nhw'n gofyn i bobl gadw golwg ar , sy'n cael eu diweddaru bob 15 munud.

Ffynhonnell y llun, Weather Watchers | Welshpoppy

Disgrifiad o'r llun, Roedd yr afon yn uchel ym Mhontypridd fore Sadwrn

Mae rhybuddion llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn berthnasol i nifer o afonydd, yn bennaf yn ne a chanolbarth Cymru, yn cynnwys yr Afon Wysg yng Nghrughywel ac Aberhonddu.

Mae yna rybuddion hefyd mewn grym ar gyfer yr Afon Gwy ger Llanfair-ym-muallt, yr Afon Cynon ger Aberpennar ac Abercynon, ac ar yr Afon Llwchwr yn Rhydaman a Llandybie.

Mae'r Afon Tywi yng Nghei Caerfyrddin, a rhwng Llandeilo ac Abergwili, yn ogystal ag ar hyd yr Afon Teifi yng Nghastell Newydd Emlyn, Cenarth, Llechryd a Llandysul hefyd mewn peryg o orlifo.

Ar un adeg roedd 27 rhybudd mewn grym am lifogydd ar draws Cymru ddydd Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Weather Watchers | Naturallydigital

Disgrifiad o'r llun, Mae yna rybudd llifogydd mewn grym ar gyfer yr Afon Wysg yn Aberhonddu
Disgrifiad o'r llun, Yr Afon Cynin yn uchel yn Sancl锚r, Sir Gaerfyrddin

Roedd y rhybudd oren yn berthnasol i'r siroedd canlynol:

  • Abertawe
  • Blaenau Gwent
  • Caerffili
  • Caerfyrddin
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Ceredigion
  • Merthyr Tudful
  • Mynwy
  • Pen-y-bont
  • Penfro
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Torfaen

Ynys M么n a Sir y Fflint yw'r unig ardaloedd sydd ddim wedi eu heffeithio gan y rhybudd melyn.

Mae'r ffyrdd canlynol wedi'u heffeithio gan y llifogydd:

  • A4077 Pont Crughywel ym Mhowys
  • A4061 Ffordd y Rhigos yn Rhondda Cynon Taf
  • A4042 Pont Llanelen yn Sir Fynwy
  • Church Street yn Llandysul ar gau ger y clwb criced

Ffynhonnell y llun, Met Office

Disgrifiad o'r llun, Mae'r rhybudd melyn yn berthnasol i bobman yng Nghymru heblaw am Ynys M么n a Sir y Fflint.

Dywedodd y rheolwr tactegol, Gary White: "Gall d诺r llifogydd fod yn beryglus dros ben, ac rwy'n annog pobl i beidio 芒 cheisio cerdded neu yrru drwyddo, oni bai bod y gwasanaethau brys yn cyfarwyddo hynny."

Ychwanegodd Mr Petagna y byddai mwy o dywydd gwlyb yr wythnos nesaf hefyd.

Dywedodd: "Fe fydd rhywfaint o hoe ddydd Sul a dydd Llun, ond yna dydd Mawrth mae disgwyl mwy o law."

Disgrifiad o'r llun, Roedd llifogydd yn rhannau o Gwm Tywi, yn agos at Gapel Dewi yng Nghaerfyrddin