Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Iselder cyfnod clo: 'Doedd neb yn gofyn pam'
Mae faint o feddyginiaethau gwrth-iselder sy'n cael eu rhoi yng Nghymru wedi "cyflymu" yn ystod y pandemig, yn 么l elusen.
Cafodd dros 3.2 miliwn eitem i drin iselder eu rhoi gan feddygon teulu yn chwe mis cynta'r pandemig - cynnydd o 115,660 ers y flwyddyn flaenorol.
Ond fe wnaeth nifer y bobl gafodd eu cyfeirio at driniaethau siarad ostwng o draean i 25,520, yn 么l ffigyrau swyddogol.
Rhybuddiodd elusen Mind Cymru yn erbyn gorddefnydd meddyginiaeth gwrth-iselder, gan alw am ddefnyddio mwy o therapi siarad.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi mewn cefnogaeth iechyd meddwl.
'Ddim at wraidd y broblem'
Mae presgripsiynau am foddion gwrth-iselder wedi bod yn cynyddu dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac mae data gan feddygon teulu'n dangos bod y tueddiad yn parhau.
Ond mae'r cynnydd yn "fwy serth" yn y chwe mis ar 么l y cyfnod clo cyntaf, meddai Cyfarwyddwr Mind Cymru, Sara Moseley.
Dywedodd bod moddion gwrth-iselder yn "gallu bod yn ddefnyddiol am gyfnodau byr", ond nad meddyginiaeth ar ei ben ei hun yw'r "peth iawn i wneud", a bod "gymaint o bethau eraill sy'n gymorth i bobl".
"Dwi'n meddwl yn aml bod meddyginiaethau gwrth-iselder yn cael eu defnyddio fel plastr i leihau straen yn y tymor byr ond dydy hynny ddim yn mynd i wraidd problemau'r person, am weddill eu bywyd."
Ychwanegodd bod mwy yn gorfod aros am driniaethau siarad, ond bod angen addasu i ateb y broblem:
"Mae gwir angen symud yn gyflym a bod yn greadigol ac yn agored er mwyn delio gyda'r angen enfawr yma."
Roedd Luke Jones, 33 o Ferthyr Tudful, eisoes wedi cael presgripsiwn am feddyginiaeth gwrth-iselder, ond pan waethygodd ei gyflwr yn y clo cyntaf, dywedodd i'r meddyg gynyddu ei ddos yn sydyn iawn ar 么l galwad ffon.
Digwyddodd yr un peth ym mis Tachwedd: "Doedd neb yn trio gweld pam oeddech chi'n teimlo fel hyn.
"Doedd neb yn meddwl am ofal pellach chwaith.
"Dwi'n meddwl mai moddion ydy cael troed drwy'r drws, y stepen gyntaf wrth geisio cael cymorth."
'Ton o ryddhad'
Yn wahanol i Loegr, dim ond drwy'r GIG - ar 么l siarad gyda meddyg teulu - y mae modd cael gwasanaethau fel cwnsela yng Nghymru.
Fe wnaeth Mind Cymru lansio cynllun dros dro llynedd i bobl oedd yn poeni am eu hiechyd meddwl allu cyfeirio eu hunain am gwnsela dros y ffon.
Mae bron i 4,000 wedi gwneud cais hyd yma, ond mae'r arian i'r cynllun yn dod i ben yn y gwanwyn.
Un ydy Gemma Crocker, 37 o Gaerdydd, a ddywedodd bod "ton fach o ryddhad" wedi dod drosti pan ddechreuodd siarad hefo cwnselydd.
Cafodd feddyginiaeth hefyd gan ei meddyg teulu.
"O'n i angen siarad 'da rhywun o'dd ddim yn gw'bod lot amdana' i ac o'n i angen y meddyginiaeth i ddod a fi n么l, gallen i fod wedi trio un heb y llall ond dwi ddim yn gw'bod ble bydden ni wedi mynd."
Yn 么l cyd-gadeirydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yng Nghymru, mae triniaeth yn llai clir oherwydd y pandemig.
Dywedodd Dr Peter Saul, sy'n feddyg yn Wrecsam, mai meddyginiaeth ydy'r "opsiwn hawdd", ond y byddai "trafodaeth fwy eang" dan amodau arferol.
Galwodd hefyd am weithiwr iechyd meddwl i bob meddygfa yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae dosbarthu meddyginiaeth gwrth-iselder wedi cynyddu ychydig dros y flwyddyn ddiwethaf, er roedd y duedd wedi bod ar gynnydd ers cyn dechrau'r pandemig.
"Mae cefnogaeth iechyd meddwl wedi bod yn hanfodol yn ystod y pandemig ac rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys y trydydd sector, i ymateb i anghenion iechyd meddwl sy'n newid.
"Rydym hefyd wedi buddsoddi bron i 拢10m i ddarparu cefnogaeth ar gyfer materion iechyd meddwl lefel isel ac i atal angen i orfod cael gwasanaethau mwy arbenigol."
Bydd mwy ar raglen Wales Live, 22:35 ar 91热爆1.