Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dau gyfle i brynu tir am £25,000 a chodi cartref cyntaf
- Awdur, Craig Duggan
- Swydd, Gohebydd 91Èȱ¬ Cymru
Mae cynllun peilot yng Ngheredigion yn anelu at geisio helpu pobl leol i gymryd y cam cyntaf ar yr ysgol eiddo.
Mae'r cyngor yn cynnig y ddwy lain adeiladu am amcanbris gostyngol o £25,000 yr un.
O gael caniatâd cynllunio fe fydd y prynwyr llwyddiannus yn cael codi eu cartrefi eu hunain ar y tir sydd ger ystâd Parc yr Hydd ym mhentref Ciliau Aeron.
Bwriad y cyngor gyda'r cynllun peilot hwn yw helpu trigolion Ceredigion i adeiladu dau gartref cychwynnol.
Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans - sy'n gyfrifol am yr economi ac adfywio ar gabinet Cyngor Ceredigion - bod y cynllun yn gyfle newydd a chyffrous i bobl y sir.
'Mae angen i ni wneud rhywbeth'
"Ry'n ni gyd fel cynghorwyr yn gwybod bod angen hyn yng Ngheredigion - ac mewn llefydd eraill yng Nghymru - i bobl sydd eisiau dechrau ar yr ysgol dai am y tro cyntaf," meddai.
"Y teimlad oedd bod angen i ni wneud rhywbeth, felly dyma'r cam cyntaf yn y gobaith y bydd pobl yn dangos diddordeb.
"Mae [cael eich tŷ cyntaf] yn broblem fawr. Ni'n gweld hyn yn y pwyllgor cynllunio. Mae llawer iawn o bobl angen tai yng nghefn gwlad ond mae polisïau yn eu hatal.
"Mae cynnig hyn, tai fforddiadwy, yn golygu y bydd wastad cyfyngiadau ar y plotiau.
"Felly, os yw pwy bynnag sy'n adeiladu nhw yn symud ymlaen rywbryd, byddwn ni wastad yn gallu sicrhau mai pobl Ceredigion fydd yn eu prynu'r tai nhw yn y dyfodol."
Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun hunan-adeiladu sydd â'r nod o "gael gwared ar rwystrau sy'n atal pobl rhag adeiladu eu cartrefi eu hunain".
O dan y cynllun hwnnw mae'n rhaid cadw at ddetholiad o ddyluniadau ar gyfer y tai sydd wedi'u cytuno ymlaen llaw.
Dyw prosiect peilot Ceredigion ddim yn rhan o gynllun y llywodraeth, oherwydd yn ôl y Cynghorydd Evans dyw e ddim yn caniatáu i bobl wneud y gwaith adeiladu eu hunain.
"Os y'ch chi am wneud y gwaith eich hunain fel person hunan-gyflogedig, fyddwch chi ddim yn medru gwneud hynny [o dan gynllun y Llywodraeth]," meddai.
"Ry'n ni'n teimlo ei bod hi'n fwy fforddiadwy i gael unigolyn i gymryd y cyfle euraidd hwn i roi stamp ei hun ar y tÅ· ac efallai adeiladu fe ei hunan."
Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn gofyn i bobl leol fynegi diddordeb yn y cynllun peilot erbyn 26 Chwefror.
Er mwyn bod yn gymwys i brynu un o'r lleiniau bydd yn rhaid i bobl fodloni cyfres o feini prawf ar gyfer tai fforddiadwy.
Mae cymhwyster ariannol, sef y gallu i fenthyca dim mwy na'r swm sy'n ofynnol i brynu'r eiddo am ei bris gostyngol ynghyd â 10% o'r pris hwnnw.
Ac mae cymhwyster preswylio hefyd:
- Cysylltiad lleol yn yr ystyr bod yn rhaid i'r ymgeisydd, ar ryw adeg yn ei fywyd, fod wedi byw yng Ngheredigion neu ardal cyngor tref/cymuned gyfagos (neu gyfuniad o'r ddau) am gyfnod parhaus o bum mlynedd;
- Neu angen byw yng Ngheredigion i ofalu'n sylweddol am berthynas agos neu dderbyn gofal ganddynt;
- Neu'r angen i fod yng Ngheredigion at ddibenion cyflogaeth fel gweithiwr allweddol ar sail barhaol, amser llawn.
Hefyd bydd disgwyl i ymgeiswyr fyw yn yr eiddo fel ei unig gartref.
'Nifer wedi gadael yr ardal'
Mae Meirian Morgan yn athrawes o bentref Bwlchllan yn wreiddiol, sydd wedi prynu ei thÅ· cyntaf yn Nhregaron.
Dywedodd bod llawer o'i ffrindiau wedi methu â phrynu gan fod prisiau tai yn y sir tu hwnt i'w cyrraedd.
Mae nifer wedi gadael, yn rhannol er mwyn chwilio am waith ond hefyd oherwydd prisiau eiddo.
"Fi'n credu bod y ffaith bod pobl mwy cefnog yn dod i ymddeol i'r sir yn ffactor wrth brisio pobl ifanc allan," meddai.
"Hefyd y ffaith bod lot o bobl yn prynu tai yng Ngheredigion ac yn eu troi nhw mewn bythynnod gwyliau neu Airbnbs- mae hynny hefyd yn broblem, ac yn y diwedd dim ond lle ar gyfer gwyliau fydd lot o bentrefi Ceredigion a bydd pobl ifanc yn colli allan."
Dywedodd Meirian ei bod hi'n meddwl y bydd cynnig y lleiniau fforddiadwy yn apelio i bobl ifanc sydd yn chwilio am gyfle i godi tÅ· eu hunain.
"Dw i'n meddwl bod e'n gynllun grêt. Yn amlwg mae'n dibynnu ar sefyllfa unigolyn - os oes gyda chi'r amser i aros am ganiatâd cynllunio, yn gallu adeiladu tŷ eich hunain, a bod e yn wir yn fforddiadwy.
"Dw i'n meddwl dylai'r cyngor wneud mwy o bethau fel hyn i helpu pobl i aros yn y sir."
Mae Cyngor Ceredigion yn meddwl mai dyma'r tro cyntaf i gynllun fel hwn gael ei brofi yng Nghymru.
Os bydd y cynllun peilot yn boblogaidd bydd y cyngor yn ystyried cyflwyno cynllun tebyg mewn rhannau eraill o'r sir.