Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Insomniac ydw i... dwi'n meddwl'
Mae Hywel Gwynfryn yn cofio'r gwely plu cyfforddus yng nghartref ei daid a'i nain yn dda.
Ynddo roedd yn teimlo'n ddiogel a'n gallu syrthio i gysgu heb unrhyw drafferth tan y bore.
Ond am y mwyafrif o'i fywyd mae pethau wedi bod yn dra gwahanol ar Hywel. Fel dros hanner poblogaeth Prydain, mae'r cyflwynydd adnabyddus yn byw gydag anawsterau cysgu.
"Dwi'n troi a throsi, poeni, codi, mynd i lawr y grisiau, darllen llyfr, gwneud paned, trio cysgu... dyna'r drefn pob nos.
"Dwi hyd yn oed yn poeni, os fydda i'n cysgu na fyddai'n agor fy llygaid yn y bore."
Mewn rhaglen arbennig ar Radio Cymru mae Hywel wedi bod ar daith i geisio deall ei broblemau cysgu yn well, a dysgu mwy am beth sy'n ein cadw'n effro.
Mae Hywel yn gallu adnabod y cyfnod pan oedd ei drafferth cysgu ar ei waethaf. Pan oedd ei fab Sion yn 4 oed, daeth meddygon o hyd i diwmor ar ei ymennydd. Wedi triniaeth a gofal, fe gafodd y tiwmor ei dynnu ac fe wnaeth Sion wella. Ond fe gafodd y profiad dipyn o effaith ar Hywel.
"Yn dilyn y cyfnod anodd hwnnw, yn ychwanegol at yr insomnia fe ddechreuais gyfnod o gael ymosodiadau o banig dirybudd.
"Mi allwn fod yng nghanol y ddinas yng ngolau dydd yn ceisio ymladd i anadlu ac yn credu mod i am gael trawiad ar y galon unrhyw funud."
Er syndod i Hywel, cyngor ei feddyg oedd iddo wneud mwy o ymarfer corff, felly fe gychwynnodd redeg. Ymhen ychydig wythnosau roedd y gor-bryder wedi ysgafnhau - ond parhau gwnaeth y frwydr am noson dda o gwsg.
Yn 么l Nia Williams, sy'n seicolegydd ym Mangor, mae perthynas amlwg rhwng gor-bryder a thrafferthion cysgu.
"Yn aml iawn efo rhai math o broblemau cysgu, beth sy'n digwydd tu cefn i hynny yw'r problemau pryder yma. Mae problemau syrthio i gysgu yn aml yn dod law yn llaw gyda phroblem pryder ac hefyd problem iselder."
Felly pa gyngor oedd gan Nia i Hywel er mwyn cael noson well o gwsg? Osgoi prydau bwyd ac alcohol yn hwyr yn y nos, ymarfer corff yn ystod y dydd a hefyd i geisio osgoi sgrin gyfrifiadur neu ffon cyn mynd i'r gwely.
"Ac hefyd, peidiwch ag edrych ar y cloc! Os ydych chi'n gorwedd yn y gwely yn edrych ar y cloc mae'r gor-bryder yna am godi."
Yr oriau creadigol?
Mae insomnia yn gyflwr y mae rhywfaint o ramant o'i amgylch, gyda sawl cerddor ac artist yn dweud fod ysbrydoliaeth unigryw i'w gael yn ystod oriau man y bore.
Mae straeon am Vincent Van Gogh yn paentio campweithiau wedi methu cysgu yn chwedlonol, ac un o ganeuon mwyaf adnabyddus Paul McCartney mae'n debyg wedi ei chyfansoddi mewn breuddwyd.
Yn y rhaglen cafodd Hywel sgwrs gyda'r dramodydd Aled Jones Williams, fu'n s么n am ei gyfnodau yntau o beidio gallu cysgu a'r effaith gafodd hynny ar ei waith.
"Dwi'n cofio bod methu'n glir a chysgu, felly fe es i lawr y grisiau a fe sgwennais rhyw ddrama. Erbyn y bore roedd hi yno yn ei chrynswth.
"Roedd hynny'n ddigon o hwb i mi feddwl ysgrifennu rhywbeth arall a fe enillodd honno yn yr Eisteddfod.
"Dwi'n meddwl fod ffrwgwd dyddiol rhywsut wedi ildio i rywbeth llawer yn fwy cadarnhaol sef creadigrwydd, a fy mod wedi cael rhyddhad drwy ysgrifennu.
"Beth sy'n digwydd r诺an, ydi mod i'n gallu cael syniadau yng nghanol nos. Neu yn well byth, os dwi'n sgwennu rhywbeth a ddim yn si诺r lle mae'n mynd, rhywle yn y cwsg fe fydd wedi sortio ei hun."
Er iddo glywed sawl awgrym am sut i gael noson well o gwsg yn y rhaglen, parhau mae'r trafferthion cysgu i Hywel am y tro. Ac mae'n disgwyl o hyd i ddeffro gyda drama neu ch芒n bop wedi'i sgwennu...
Hefyd o ddiddordeb