Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ffigyrau Covid-19 M么n yn 'frawychus' ac yn 'achos pryder'
Mae pryder cynyddol fod nifer yr achosion positif o Covid-19 ar gynnydd ar Ynys M么n gyda phrif weithredwr y sir yn dweud fod y sefyllfa yn un "hynod bryderus".
Bythefnos yn 么l y sir oedd 芒'r nifer isaf o achosion yng Nghymru - erbyn hyn hi sydd 芒'r bedwaredd raddfa uchaf gyda 141.3 ar gyfer pob 100,000.
Ym mis Ionawr roedd 440 o achosion, y nifer uchaf mewn mis ers dechrau'r pandemig.
Cred swyddogion fod y cynnydd o ganlyniad i drosglwyddiad rhwng cartrefi dros yr wythnosau diwethaf, gyda theuluoedd neu ffrindiau'n ymweld 芒'i gilydd yn gymdeithasol.
Dywedodd y prif weithredwr Annwen Morgan fod y sefyllfa yn wahanol i ardaloedd eraill Cymru ers dechrau'r cyfnod clo diweddaraf.
"Llai na phythefnos yn 么l, roedd gan Ynys M么n y nifer isaf o achosion o'r coronafeirws yng Nghymru.
"Mae'r sefyllfa wedi newid yn gyflym iawn.
"Ddoe yn unig, cofnododd ein t卯m Profi, Olrhain, Amddiffyn (TTP) gyfanswm brawychus o 35 achos positif."
"Mae'r coronafeirws yn amlwg ym mhob rhan o'r ynys wrth i achosion gael eu cadarnhau mewn pobl o bob oed - hen ac ifanc."
Dywedodd arweinydd y cyngor, y cynghorydd Llinos Medi fod y lefelau diweddaraf yn "frawychus."
"Mae'r nifer uchel o achosion yn rhoi pwysau aruthrol ar Ysbyty Gwynedd ac, yn anffodus, rydym yn deall bod mwy o drigolion M么n wedi marw."
Ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru, dywedodd ei bod wedi "gorfod dilyn be' sy'n dod i lawr o uwch fy mhen", a'i bod o'r farn bod "camgymeriadau mawr wedi digwydd".
"Unwaith 'da ni'n cau lawr, y drafodaeth gynta' ydy pryd 'da ni'n ailagor - yn lle fod y drafodaeth yngl欧n 芒'r ffaith bo' ni ddim yn ailagor tan bo' ni 'di gwasgu hwn allan o gymdeithas."
Ysgolion ar gau 'os nad yda' ni'n gyfforddus'
Gyda disgwyl cyhoeddiad am ailagor ysgolion i rai disgyblion yn ddiweddarach, ychwanegodd yr arweinydd na fyddai'n agor ysgolion oni bai bod hynny'n ddiogel.
"Dwi'n gobeithio bod y sector addysg yn gweld be 'naethon ni yr haf flwyddyn diwetha' 'efo be' ddigwyddodd yn y ffatri yn Llangefni.
"'Naethom ni ddim agor yr un pryd a gweddill Cymru oherwydd hynny. A mi fydda i yn neud yr union 'run fath y tro hwn.
"Os nad yda' ni'n gyfforddus bod niferoedd [Covid-19] yn saff i 'neud yn Ynys M么n, fydda' ni ddim yn agor yr ysgolion."
Ddechrau'r wythnos daeth cadarnhad gan y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething bod 13 achos o'r amrywiolyn Covid-19 De Affrica bellach wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru.
Yn wreiddiol dywedodd swyddogion iechyd fod 10 芒 chysylltiadau amlwg 芒 De Affrica neu deithio dramor, ond doedd dim tystiolaeth amlwg am y tri arall - gan gynnwys un ar Ynys M么n.
Ond ddydd Iau dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod wedi dod o hyd i gysylltiad rhwng achos M么n 芒 theithio dramor- gan adael dim ond dau heb esboniad.