Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Covid-19: Canslo'r Sioe Fawr eto eleni
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cyhoeddi bod y Sioe Frenhinol wedi'i gohirio tan 2022.
Daw'r cyhoeddiad wedi i'r gymdeithas gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Fe fydd y gymdeithas yn ystyried cynnal nifer o ddigwyddiadau llai sy'n cydymffurfio gyda rheoliadau Covid dros yr haf.
Maen nhw hefyd yn anelu at gynnal y Ffair Aeaf yn 2021 "cyn dychwelyd at normalrwydd newydd yn 2022".
'Archwilio posibiliadau digwyddiadau llai'
Dywedodd prif weithredwr y gymdeithas, Steve Hughson: "Rydym yn parhau i weithio ochr yn ochr 芒 Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i greu map ffordd ar gyfer ailagor digwyddiadau yn ddiogel.
"Mae ein digwyddiadau yn ganolog i'r economi wledig ac i'r ffordd o fyw wledig ac yn golygu cymaint i aelodau, arddangoswyr, masnachwyr ac ymwelwyr ac rydym yn deall yn llwyr y cyfrifoldeb ar bob un ohonom i sicrhau ein bod yn darparu ein digwyddiadau cyn gynted ag y mae'n ddiogel gwneud hynny.
"Er gwaethaf yr heriau hyn mae'r Gymdeithas wedi camu ymlaen i gefnogi ein cymuned leol trwy ddarparu cyfleusterau yn rhad ac am ddim ar gyfer Canolfan Profi Covid a chanolfan brechu torfol."
Ychwanegodd John T Davies, Cadeirydd y Bwrdd: "Gyda gofid y mae'r penderfyniad wedi'i wneud i ganslo G诺yl Tyddyn a Chefn Gwlad eleni ac i ohirio Sioe Frenhinol Cymru.
"Byddwn yn archwilio posibiliadau digwyddiadau llai, amgen yr haf hwn a gyda Bwrdd y Cyfarwyddwyr byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ddiogelu ein Cymdeithas ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
"Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth ein haelodau a rhanddeiliaid eraill yn fawr. Ni fu cefnogaeth barhaus pawb sy'n gysylltiedig 芒'r gymdeithas erioed yn bwysicach."