Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dim effaith i'r cynllun brechu wedi llifogydd
Dyw'r llifogydd diweddar ddim wedi cael "effaith andwyol" ar y cynllun brechu, medd Llywodraeth Cymru.
Ddydd Iau bu'n rhaid i nifer o bobl Sgiwen ger Castell-nedd adael eu cartrefi wrth i law trwm effeithio ar sawl ardal.
Dywed Bwrdd Iechyd Bae Abertawe nad yw'r llifogydd wedi cael effaith ar eu canolfannau brechu na gofal sylfaenol.
Dywedodd llefarydd ei bod hi'n bosib aildrefnu apwyntiad petai rhywun wedi methu cael brechiad oherwydd y tywydd.
Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd nad oeddynt yn ymwybodol bod y llifogydd wedi cael effaith ar y cynllun brechu.
Ddydd Iau dywedodd arweinydd Cyngor Wrecsam, Mark Pritchard, bod timau wedi sicrhau na gollwyd yr un dos o frechlyn AstraZeneca, sy'n cael ei gynhyrchu ar St芒d Ddiwydiannol Wrecsam, yn y llifogydd.
Dangosodd ffigyrau ddydd Gwener bod 212,317 o bobl yng Nghymru wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn coronafeirws gyda 415 arall wedi cael yr ail ddos.
Bu'n rhaid i 80 o bobl Sgiwen adael eu tai ddydd Iau wrth i'r tywydd waethygu. Ddydd Gwener fe ddychwelodd criwiau y Gwasanaeth T芒n i'r ardal er mwyn gwaredu d诺r o'r tai.
Yn y cyfamser bu'n rhaid achub teulu o bentre Yr Orsedd ger Wrecsam wedi i dd诺r amgylchynu eu cartref nos Iau.
Ddydd Gwener dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bod ymdrechion i ail-gartrefu y rhai sydd wedi'u heffeithio yn cael eu gwneud yn unol, tra bod hynny'n bosib, 芒 chyfyngiadau Covid.
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd y llifogydd wedi cael effaith ar y cynllun i frechu pobl yng Nghymru.