Rhieni newydd angen 'achubiaeth' cwrdd â'i gilydd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dim ond dan amgylchiadau caeth iawn y mae'n bosib i riant newydd gwrdd ag aelod o aelwyd arall yng Nghymru
  • Awdur, Cemlyn Davies
  • Swydd, Gohebydd gwleidyddol 91Èȱ¬ Cymru

Byddai caniatáu i rieni newydd gyfarfod yn yr awyr agored ac o bellter cymdeithasol yn "achubiaeth", yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Geni Plant (NCT).

Rhybuddiodd yr elusen fod y cyfyngiadau presennol yng Nghymru yn "ynysu" pobl ac yn achosi "pryder a rhwystredigaeth".

Mae rheolau cyfnod clo Cymru'n gwahardd pobl rhag cyfarfod oni bai am amgylchiadau cyfyngedig iawn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y gallai rhieni newydd gael cymorth gan deulu neu ffrindiau os nad oes "dewis arall rhesymol".

Yn ôl y rheolau presennol dim ond aelwydydd un rhiant a phobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain all ffurfio aelwyd estynedig, ac felly dreulio amser gydag eraill.

Mae pob gweithgaredd grŵp, gan gynnwys dosbarthiadau rhieni a babanod, hefyd wedi'i wahardd.

Yn Lloegr gall unrhyw aelwyd sydd â phlentyn dan un oed ffurfio aelwyd estynedig, ac yn Yr Alban caniateir dosbarthiadau rhieni a babanod awyr agored gyda hyd at saith oedolyn.

'Ychydig mwy o hyblygrwydd'

Dywedodd Elizabeth Duff o'r NCT: "Mae llawer o bobl yn dweud yr hyn yr oeddent ei eisiau yw cael o leiaf un cyfarfod â pherson arall, cwrdd â rhiant arall wyneb yn wyneb, gallu mynd am dro gyda nhw a chael y math hwnnw o sgwrsio lle gallwch chi ddweud y pethau sy'n eich poeni chi, gallwch chi ddweud pethau y gallai fod ychydig yn sensitif, ychydig yn chwithig wrth siarad dros sgrin.

"Byddai'n wych pe bai modd caniatáu ychydig bach mwy o hyblygrwydd ar gyfer ambell gyfarfod un i un. Rwy'n credu y byddai hynny'n achubiaeth i rai rhieni."

Ffynhonnell y llun, Bethan Sayed

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Aelod o'r Senedd, Bethan Sayed yn cefnogi galwad yr NCT

Dywedodd Aelod Plaid Cymru o Senedd Cymru, Bethan Sayed, a gafodd fabi ym mis Ebrill, y dylid caniatáu i rieni newydd gwrdd yn yr awyr agored.

"Os ydyn nhw'n pellhau'n gymdeithasol, os nad oes mwy na nifer penodol o rieni â phramiau yna rwy'n credu y byddai hynny'n dderbyniol," meddai, "oherwydd ei fod mor ynysig yn enwedig yn y dyddiau cynnar pan rydych chi allan o'r ysbyty pan rydych chi'n rhiant newydd.

"Mae angen i chi siarad a chwrdd â rhieni eraill yn gorfforol i rannu profiadau ac i gael awgrymiadau newydd ar beth i'w wneud."

'Grwpiau cymorth hanfodol'

Yn y cyfamser mae hyfforddwr dosbarth babanod yng Nghaerdydd wedi galw am ganiatáu i weithgareddau grŵp ailddechrau.

Mae Emma Loyns yn arwain dosbarthiadau Monkey Music yn ne Cymru. Mae ei sesiynau wedi gorfod symud ar-lein oherwydd y cyfnod clo.

"Rydyn ni wedi cael ein cydnabod mewn rhannau eraill o'r DU fel grwpiau cymorth hanfodol a dyna'n union roedden ni'n ei wneud," meddai.

Ffynhonnell y llun, Emma Loyns

Disgrifiad o'r llun, Mae sesiynau Emma Loyns wedi gorfod symud ar-lein oherwydd y cyfnod clo

"Mae ein dosbarthiadau yn addysgiadol ac yn wych i'r plant ond rydyn ni'n cefnogi'r rhieni mewn ffordd na fydden nhw'n ei gael yn unman arall o bosib.

"I lawer o'n rhieni efallai mai dod i'r dosbarth yw'r unig beth maen nhw'n ei wneud drwy'r wythnos ac efallai nad oes ganddyn nhw unrhyw gefnogaeth arall."

Mae Ms Loyns yn mynnu bod ei dosbarthiadau'n "Covid-ddiogel", gyda rhieni a babanod yn cael eu cadw "tri metr ar wahân".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Oherwydd difrifoldeb coronafeirws yng Nghymru, ar Lefel Rhybudd 4, ni all weithgareddau babanod a phlant bach, ynghyd â gweithgareddau eraill wedi eu trefnu i blant, ddigwydd.

"O dan Lefel Rhybudd 4, mae'r rheolau yn caniatáu i rieni babanod gael cymorth gan eu teuluoedd neu ffrindiau agos, os oes ei angen arnynt ac os nad oes dewis arall rhesymol.

"Er mwyn helpu rhieni gyda babanod newydd-anedig a phlant ifanc, mae ein rheolau yn caniatáu i drefniadau gofal plant anffurfiol gyda ffrindiau neu deulu barhau.

"Mae'r rheolau hefyd yn caniatáu cyfarfodydd gyda ffrindiau neu deulu os oes angen cefnogaeth a help ychwanegol ar rieni â babanod newydd-anedig, ond dim ond os nad oes unrhyw ddulliau rhesymol eraill ar gyfer darparu'r gefnogaeth a'r help."

Ychwanegodd y llefarydd y dylai unrhyw rieni newydd "leihau nifer y bobl rydych chi'n ymgysylltu â nhw am gefnogaeth, a nifer y cyfarfodydd, cymaint â phosib".

'Rhywbeth i edrych ymlaen ato'

Ffynhonnell y llun, Becky Bennett

Disgrifiad o'r llun, Becky Bennett gyda'i mab a'i chymar

Cafodd Becky Bennett o Wrecsam ei mab, Wyn, ym mis Ebrill.

Am gyfnod rhwng y cyfnodau clo roeddent yn gallu mynychu dosbarthiadau babanod, ond yna daeth popeth i stop a dechreuodd amser "sefyll yn stond".

"Roedden ni wedi cael y mymryn lleiaf hwnnw o flas ar normalrwydd ac yna cafodd ei rwygo i ffwrdd," meddai.

"Roedd yn arbennig o ddefnyddiol i mi o safbwynt iechyd meddwl oherwydd mae gennych chi'r rhywbeth hwnnw i edrych ymlaen ato a rhywbeth i'ch cael chi drwy'r wythnos.

"Gallwch chi gael eich hun allan o'r tŷ a chwrdd â mamau eraill. Roedden ni bob amser yn eistedd ar bellter dau fetr gyda mwgwd - ond gallwch chi eistedd yno a gallwch chi ddweud, 'rydw i wedi cael noson wael iawn' ac maen nhw'n deall.

"Mae wedi bod yn anodd iawn, iawn mynd yn ôl o gael y sesiynau hynny a chael ychydig o routine."