Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am ddileu asesiadau allanol i ddysgwyr Cymru
Mae yna alw am i athrawon benderfynu ar raddau TGAU a Safon Uwch, ac i Lywodraeth Cymru gael gwared ar arholiadau allanol sydd i fod i'w cynnal yr haf yma.
Ni fydd disgyblion yn dychwelyd i unrhyw ddysgu yn yr ystafell ddosbarth tan o leiaf diwedd mis Ionawr.
Mae un myfyriwr sy'n ymgyrchu i ganslo'r arholiadau wedi dweud bod y syniad o sefyll asesiadau allanol yn yr hinsawdd sydd ohoni yn "ysgogi panig".
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y gr诺p ymgynghori ar arholiadau yn ystyried sut i "adeiladu ar y cynigion a nodir ym mis Rhagfyr a'u haddasu".
Mae Cai Parry, myfyriwr Safon Uwch o Gaerdydd, wedi lansio ymgyrch yn galw am ddileu'r asesiadau. Mae'n galw am i asesiadau gael eu graddio gan athrawon.
Mae Cai, sy'n 17 ac yn bwriadu astudio gwleidyddiaeth yn y brifysgol, yn poeni bod "ansawdd y dysgu" i ddisgyblion wedi bod mor amrywiol fel y byddai'n annheg disgwyl i fyfyrwyr sefyll arholiadau allanol.
"Rwy'n blentyn sy'n ofalwr ac mae'r amser dwi wedi gorfod ei roi i mewn i hynny wedi cynyddu llawer oherwydd y pandemig ac mae wedi cyrraedd y pwynt lle mae'n ymyrryd mewn gwirionedd ar fy ngallu i astudio," meddai.
"Dydw i ddim yn mynd i fod yn mynd i mewn i'r asesiadau hynny gyda'r un math o gyfleoedd 芒 phawb arall ac nid yw'n mynd i arwain at gael gradd deg."
Ychwanegodd bod angen system sy'n ystyried yr "amgylchiadau amrywiol" y mae disgyblion yn astudio ynddynt eleni.
"Mae'r syniad y bydd rhyw fath o asesiad ar y gweill yn ysgogi panig. Mae'n rhoi pryder i lawer o bobl."
Ym mis Rhagfyr cadarnhaodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y byddai myfyrwyr yn derbyn graddau yn seiliedig ar gymysgedd o asesiadau mewnol ac allanol.
Yna, yn gynharach ym mis Ionawr, canslwyd cyfnod asesu mewnol y gwanwyn gan y rheoleiddiwr arholiadau Cymwysterau Cymru ar gyfer disgyblion TGAU, UG a Safon Uwch.
Yn Lloegr, roedd yr Ysgrifennydd Addysg wedi cyhoeddi y byddai graddau wedi eu penderfynu gan athrawon yn cael eu defnyddio. Ers hynny mae wedi awgrymu bod rhai "arholiadau bach" allanol yn cael eu hystyried.
Bydd y cymwysterau cyfatebol i TGAU a Safon Uwch yn Yr Alban yn cael eu hasesu gan athrawon tra bod Gogledd Iwerddon hefyd wedi canslo pob arholiad TGAU, UG a Safon Uwch eleni.
Hyd yma mae dros 6,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganslo asesiadau allanol yn 2021.
Dywedodd Nia Wyn Jones, pennaeth cynorthwyol Ysgol Maes Garmon yn Yr Wyddgrug wrth y Post Cyntaf: "Mae cyfnod yma wedi bod mor heriol i rieni, disgyblion a staff, a beth sydd angen erbyn hyn ydy rhyw fath o eglurder fel ein bod ni yn gwybod beth yn union sydd ar y gweill.
"Rwy'n cytuno gydag UCAC sy'n galw am osod cyfundrefn yn eu lle sy'n mynd i allu gwrthsefyll unrhyw fath o newid yn y pandemig yma, oherwydd mewn ffordd beth sydd wedi digwydd hyd yma ydy ein bod ni wedi bod yn ymateb i bethau yn hytrach na chyfundrefn mewn lle o flaen llaw fel bod myfyrwyr yn hollol glir beth yn union sydd o'u blaenau."
'Gair arall am arholiad'
Mae Plaid Cymru wedi ailadrodd eu galwadau am gael gwared ar y profion allanol.
"Dwi wedi bod yn deud ers yr haf diwethaf y dylid canolbwyntio ar asesiadau athrawon ar gyfer eleni," meddai Si芒n Gwenllian AS, llefarydd y blaid ar addysg.
"Dwi'n credu mai'r peth synhwyrol a'r peth teg ydy penderfynu a phenderfynu'n fuan bod yr asesiadau allanol rheiny yn cael eu canslo. Yn fy marn i, gair arall am arholiad ydy 'asesiad allanol'.
"Mae'n pobl ifanc ni wedi colli cymaint o'u haddysg. Ma' rhai ohonyn nhw wedi colli llawer iawn mwy o'u haddysg nag eraill.
"Er mwyn tegwch i bawb, dwi'n credu mai asesiadau athrawon ydy'r ffordd deg ymlaen."
'Angen i bawb gael eu trin yn deg'
Mae prif weithredwr bwrdd arholi Cymru, CBAC yn cyfaddef nad oes "unrhyw benderfyniadau hawdd" a "dim canlyniadau hawdd".
Dywedodd Ian Morgan bod y penderfyniad i ganslo arholiadau yn Lloegr "yn cael effaith ehangach ar draws y DU", ond y bydden nhw'n bwrw ymlaen ag agenda sy'n addas i ddysgwyr yng Nghymru.
"Yr hyn sydd ei angen arnom yw sicrhau bod cysondeb yn y broses, bod pawb yn cael eu trin yn deg a bod lefel y cynnwys a lefel yr asesu a gaiff dysgwyr yn deg ac yn gytbwys yn gyffredinol," ychwanegodd.
Mae Manon Clarke, disgybl Lefel AS 17 oed o Gaerdydd sy'n bwriadu astudio meddygaeth yn y dyfodol, hefyd o blaid canslo'r asesiadau allanol.
"Fi'n meddwl bod o'n rhoi lot o stress ar athrawon a disgyblion o ran, does gan yr athrawon ddim wir syniad be ma'r asesiadau yn gynnwys ar hyn o bryd," meddai.
"Sai'n teimlo fy mod i'n symud ymlaen gyda fy nghyrsiau i ddigon cyflym i eistedd unrhyw fath o asesiad ar y foment. A fi'n deall nad oes bai ar unrhyw un am hynny ond sai'n teimlo'n bod o'n deg os bydd yn rhaid i ni [sefyll arholiad].
"Dwi hefyd ddim yn meddwl bod o'n deg ar blant sy'n ofalwyr, er enghraifft, sydd methu gweithio'n annibynnol. Sai'n meddwl bod o'n deg ar blant sydd dan lot o stress ar hyn o bryd neu'n stryglo gyda'u hiechyd meddwl."
'Dydw i ddim yn dysgu unrhyw beth'
Ychwanegodd Anna Heatly, sy'n ddisgybl blwyddyn 11 yn Abertawe: "Ar un llaw fe hoffwn i wneud yr asesiadau er mwyn cael siawns i brofi fy mod i yn haeddu gradd.
"Ond yna ar y llaw arall ryda'n ni'n byw yn realiti creulon Covid ac yn cael gwersi ar-lein.
"Nid athrawes sy'n siarad gyda fi yw'r gwersi yma, ond fideos, a ffrydio ac er yn rhoi gwaith i ni yn y pen draw sgrin yw hi a dydw i ddim yn dysgu unrhyw beth.
"Rwy'n sylwi bod pob dim yn mynd mewn drwy un glust ac allan drwy'r llall am fy mod i yn eistedd o flaen sgrin, mae mor anodd."
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ym mis Ionawr, penderfynwyd symud tuag at ddysgu o bell ar sail iechyd y cyhoedd ac o ganlyniad fe wnaeth Cymwysterau Cymru gyhoeddiad cynnar i ganslo ffenestr asesu fewnol y gwanwyn i roi sicrwydd i ddysgwyr.
"Bydd y Gr诺p Cynghori dylunio a chyflenwi nawr yn ystyried sut rydym yn adeiladu ar y cynigion a gyhoeddwyd cyn y Nadolig ac yn eu haddasu i gefnogi lles a dilyniant dysgwyr.
"Mae'r gweinidog hefyd yn trafod gyda rhanddeiliaid gan gynnwys pobl ifanc a bydd yn rhoi diweddariad pellach cyn gynted 芒 phosibl."